Wedi ei bostio ar Dydd Sadwrn 17 Gorffennaf 2021
Oes yna hen dafarn, Neuadd bentref neu siop a oedd unwaith yn galon eich cymuned? Neu mewn perygl o gau?
Os felly, yna gallwch chi helpu i’w achub!
Mae Llywodraeth y DU yn cynnig grantiau o hyd at £250,000 i grwpiau i gymryd drosodd a rhedeg cyfleuster yn eu hardaloedd, gan gynnwys parciau, adeiladau swyddfa bost a chlybiau chwaraeon.
Mae’n rhan o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol newydd gwerth £150 miliwn i helpu i sicrhau bod cymunedau ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu cefnogi a pharhau i elwa o’r cyfleusterau lleol, asedau a mwynderau cymunedol sydd fwyaf pwysig iddyn nhw.
Bydd y grantiau yn cael arian cyfatebol ac yn talu hanner y gost, gyda grwpiau lleol yn gyfrifol am ariannu o leiaf 50 y cant.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, cofrestrwch i fynychu un o ddwy weminar gyda Llywodraeth y DU y mis yma:
- Dydd Mawrth 20fed Gorffennaf, 3pm – 4pm
- Dydd Gwener 23ain Gorffennaf, 10am – 11am
Mae yna dri chyfle i wneud cais - mae’r cyntaf yn cau ar Awst 13. Bydd cyfle arall i geisio yn Rhagfyr a Mai 2022.
Am ragor o wybodaeth am y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, cliciwch yma.