Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Gorffennaf 2021
Mae staff a gwirfoddolwyr Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn dod â lliw i isffyrdd dros yr haf.
Yn ddiweddar, addurnodd y tîm isffordd yn y Ddôl Werdd gan ei gwneud yn fwy deniadol i’r cyhoedd ei defnyddio.
Mae Chwarae Torfaen yn bwriadu gwneud yr un peth i 6 o isffyrdd eraill yn Nhorfaen erbyn diwedd yr haf.
Dywedodd Sophie Goodland, 18 oed o Lanyrafon, sydd newydd sicrhau swydd amser llawn gyda’r Gwasanaeth Chwarae ar ôl gwirfoddoli gyda nhw dros y blynyddoedd diwethaf, “Rydw i wrth fy modd gyda’r amrywiaeth o bethau yr ydym yn eu gwneud i bobl ifanc a’r gymuned ac fe fwynheais beintio’r isffyrdd a rhoi rhywfaint o liw iddyn nhw.
Rwy’n credu ei fod yn hyfryd ein bod ni’n cadw’r dyluniad yn syml a ffres ond gyda rhywfaint o raen hefyd. Rydw i wrth fy modd gyda’r ŵylysiau. Rydw i’n hynod o falch fy mod i’n dechrau gwaith llawn amser gyda’r gwasanaeth yr wythnos nesaf a galla’ i ddim aros i fwrw ymlaen gyda phrosiectau fel hyn.
Mae’r prosiect yn rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru i annog plant i chwarae a bod yn fwy gweithgar trwy greu llwybrau diogel a deniadol.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Cymdogaethau, y Cynghorydd Mandy Owen, “Unwaith eto, mae’r gwasanaeth chware wedi gwneud yn wych wrth gefnogi cymunedau a rhoi sglein ar fannau anneniadol. Rydym wedi derbyn nifer o sylwadau gan bobl sy’n mynd heibio sy’n dweud bod hyn wedi rhoi lliw i’r ardal ac mae’n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan.
I fi mae hi wedi bod yn bleser llwyr cael gweithio gyda’r gwirfoddolwyr ar y prosiect yma ac rwy’n edrych ymlaen at wneud mwy ym Medi ar draws Torfaen. Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cymunedau a’n hardaloedd lleol.”