Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Ionawr 2021
Erbyn hyn, mae grant ar gael i barhau i gefnogi'r gwaith parhaus i adfer canol trefi a busnesau oherwydd pandemig Covid-19. Diben y grant yw sicrhau bod canol trefi yn parhau i weithio'n economaidd a'u bod yn fannau diogel.
Er mwyn helpu busnesau manwerthu a busnesau ehangach yng nghanol trefi i baratoi i ailagor rydym yn cydnabod y bydd angen i rai weithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol ychwanegol. Mae angen hyn i annog pobl i ddychwelyd i'r stryd fawr unwaith y bydd y cyfnod clo yn llacio, ac i sicrhau bod ymdeimlad cyffredinol o les, diogelwch a hyder yn yr ardaloedd hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Rydyn ni'n gobeithio y bydd y grant hwn yn gallu helpu i adfer rhai busnesau pan ddown ni allan o'r cyfnod clo.
“Mae busnesau wedi gorfod gwneud llawer o newidiadau ers dechrau pandemig Covid-19, ac rydym yn gobeithio y bydd y gallu i dderbyn cyllid am eitemau fel byrddau a chadeiriau ar gyfer yr awyr agored yn ddigon i rai busnesau barhau i fasnachu.
“Mae'r cyllid ar gael ar gyfer ystod o eitemau a gwelliannau, felly rydym yn annog unrhyw fusnesau sydd wedi'u lleoli ym Mhont-y-pŵl, Blaenafon, canol tref Cwmbrân neu’n agos atynt, i ystyried y cynnig cyllido a gwneud cais cyn gynted â phosibl."
Bydd y cyllid yn darparu hyd at 80% o gyfanswm y costau gwella - gyda grant o hyd at uchafswm o £10K, ac arian cyfalaf ydyw yn unig. Busnesau sydd wedi'u lleoli o fewn neu yn agos at ganol tref yn unig all wneud cais.
Daeth y grant o Raglen Thematig Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ond bydd yn cael ei reoli gan y cyngor.
Cymhwystra
Busnesau sydd wedi eu lleoli ym Mhont-y-pŵl, Blaenafon a Chwmbrân, neu’n agos atynt
Gwybodaeth bellach
Dysgwch mwy am y grant trwy ymweld â'n gwefan: Grant Addasu Canoli Trefi C19 |Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen neu drwy ffonio 07773 812559
Rhaid gwario’r grantiau erbyn 31 Mawrth 2021