Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Ionawr 2021
I gyd-fynd â’r dysgu gartref sydd eisoes ar waith gydag ysgolion, o ddydd Llun 11 Ionawr bydd Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn darparu adnoddau a gweithgareddau ychwanegol ar lein i alluogi teuluoedd i gymryd rhan ynddynt gartref.
Gan ganolbwyntio ar y cysyniad o ddysgu trwy chwarae, bydd rhaglen o weithgareddau dyddiol yn cael eu postio ar dudalen Facebook Gwasanaeth Chwarae Torfaen – Chwarae Torfaen Play a bydd y rhaglen yn mynd rhagddi tan i’r ysgolion ddychwelyd.
Bydd teuluoedd yn gallu manteisio ar yr adnodd ar-lein pan y dymunant, a hynny o amgylch eu hamserlen dysgu yn eu cartref.
Bydd y gweithgareddau a ganlyn yn cael eu postio’n ddyddiol:
- 9.30am – Ymarfer Corff gyda Dan a Justin – amserlen ymarfer corff dyddiol
- 10.00 am – Blynyddoedd cynnar / Cyfnod sylfaen – Gemau llythrennau ac amser stori (Gwrandawyr Bach)
- 10.30 am –Anifeiliaid o Bob Math- Ffeithiau a gwybodaeth am anifeiliaid i bob oed
- 11.30 am –Gemau Awyr Agored/ Gweithgareddau Natur
- 12.30pm – Dawnsio gyda TJ yr Arth
- 1.30 – Hwyl gyda rhifau – gemau sy’n helpu i ddatblygu sgiliau rhif
- 2.30pm Syniadau Celf a Chrefft
- 3.30pm Beth yw’r Stori? - Storïau i blant hŷn (ar ffurf Jackanory modern)
- 3.45pm – Jôc y dydd
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: ‘Mae chwarae yn arf dysgu rhagorol i blant o bob oed, sy'n caniatáu iddynt ddysgu mewn modd difyr.
Fel rheol, rydym yn cynnal dros 100 o brosiectau sy'n gysylltiedig â chwarae bob blwyddyn ac yn ymgysylltu â channoedd o blant a theuluoedd yn wythnosol trwy'r hyn yr ydym yn ei ddarparu.
Gyda’r sefyllfa bresennol, mae’n hanfodol bod plant yn chwarae am ei fod mor fanteisiol i’w hiechyd corfforol a meddyliol. ’