Wedi ei bostio ar Dydd Iau 4 Chwefror 2021
Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ddathliad cenedlaethol o rannu rhigymau a chaneuon yn y blynyddoedd cynnar. Caiff ei drefnu gan BookTrust Cymru fel rhan o’n rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Nod Amser Rhigwm Mawr Cymru yw hyrwyddo ac annog gweithgareddau rhannu hwyl rhigymau ar gyfer plant 0-6 oed, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae rhannu rhigymau a chaneuon yn weithgaredd hanfodol yn y blynyddoedd cynnar a gall helpu plant i:
- ddatblygu sgiliau siarad, gwrando a llafaredd, gan gynnwys datblygu eu gallu i dalu sylw
- datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu, gan gynnwys rhoi hwb iddynt wrth iddynt ddechrau dysgu darllen
- meithrin hyder i siarad, canu ac ymuno
- cael hwyl!
Yn 2020, cymerodd mwy na 22,000 o blant ledled Cymru yn Amser Rhigwm Mawr Cymru, gan gymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog.
Y flwyddyn nesaf, rydym eisiau gwneud Amser Rhigwm Mawr Cymru hyd yn oed yn well drwy wahodd plant yn y Cyfnod Sylfaen i gymryd rhan yn yr hwyl rhigymu, hefyd!
Bydd yr Amser Rhigwm Mawr Cymru nesaf yn digwydd o’r 8fed i’r 14eg Chwefror 2021.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:
- Dosbarthu hyd at 20,000 o sticeri a thystysgrifau Amser Rhigwm Mawr Cymru i leoliadau, ysgolion a phartneriaid eraill sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd yn y blynyddoedd cynnar
- Gweithgareddau a sesiynau ar thema’r Amser Rhigwm Mawr mewn lleoliadau ac ysgolion sy’n cymryd rhan
- Ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol yn hybu Amser Rhigwm Mawr Cymru ac annog teuluoedd i rannu rhigymau a chaneuon
- Gweithgareddau hyrwyddo i hybu Amser Rhigwm Mawr Cymru ac annog ysgolion, lleoliadau a theuluoedd i gymryd rhan
I gofrestru ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru 2021 ewch i https://www.booktrust.org.uk/cy-gb/what-we-do/booktrust-cymru/the-big-welsh-rhyme-time/