Oes gennych chi Symptomau COVID-19?

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Chwefror 2021

Mae Safle Profi Lleol (LTS) cyntaf Torfaen wedi agor heddiw (18 Chwefror) ym Maes Parcio'r Hen Felin ar Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl.

Mae'r Safle Profi Lleol ym maes parcio'r Hen Felin yn disodli'r defnydd o uned profi symudol dros dro ar yr un safle.

Mae'r safleoedd profi lleol yn strwythurau lled-barhaol a byddant yn aros ar y safle am gyfnodau hir i wella mynediad i drigolion Torfaen. Bydd y safleoedd profi lleol ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 8am a 8pm a bydd yn cael ei redeg gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan ddefnyddio profion PCR swabio eich hun.

Dyma'r diweddaraf yn y broses o gyflwyno safleoedd profi lleol sy’n cael eu sefydlu ledled Gwent. Mae cyfleusterau safleoedd profi lleol eisoes yn gweithredu ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: “Bydd oriau agor hirach y safle profi lleol hwn yn rhoi gwell cyfle i breswylwyr drefnu prawf yn gyflym ac yn effeithlon.  Mae safle profi lleol wedi'i gynllunio fel cyfleuster cerdded drwodd ond gall preswylwyr yrru i'r safle ac mae digon o le parcio. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r unedau profi symudol lle byddwn yn gweld cynnydd yn y gymuned ond mae'r safle profi lleol yn rhoi mwy o sicrwydd i'n hardal o fynediad hirdymor i gyfleusterau profi.

“Byddwn yn annog pawb i gael prawf os ydynt yn teimlo'n sâl ac yna ynysu gartref nes iddynt gael eu canlyniadau.  Mae profi ac ynysu yn parhau i fod yn hanfodol i helpu i Gadw Torfaen yn Ddiogel.”

I drefnu prawf ffoniwch 119 neu ewch i: www.gov.wales/apply-coronavirus-test

Mae maes parcio'r Hen Felin gyferbyn â Chanolfan Byw'n Actif Pont-y-pŵl ar Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl NP4 8AT

Diwygiwyd Diwethaf: 18/02/2021 Nôl i’r Brig