Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Chwefror 2021
Yr wythnos hon, cymeradwyodd pwyllgor Cabinet Cyngor Torfaen buddsoddiad o £6,850,000 mewn estyniad fydd yn darparu 50 o leoedd ychwanegol yn Ysgol Crownbridge.
Bydd yr estyniad wedi'i gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2023 a bydd 75% o'r buddsoddiad yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'r gweddill yn cael ei ariannu gan y cyngor. Mae'r cyllid yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.
Ar hyn o bryd mae Ysgol Crownbridge yn orlawn, a disgwylir i'r galw am leoedd gynyddu ymhellach. Bydd yr estyniad sy'n cynnig 50 o leoedd ychwanegol yn cael ei adeiladu ar safle presennol yr ysgol yng Nghroesyceiliog a bydd yn helpu i ateb y galw cynyddol am addysg arbennig yn yr awdurdod lleol.
Er iddi gael ei hadeiladu'n wreiddiol ar gyfer 80 o ddisgyblion, ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 94 o ddisgyblion a 21 o ddisgyblion eraill yn ysgol gynradd Pen-y-garn.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Addysg yn Nhorfaen, : “Fe symudodd yr ysgol i’w safle pwrpasol, presennol yn 2012 ar gyfer ein disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol a dwys. Bydd y cyfleusterau estynedig ar gyfer 50 o ddisgyblion eraill yn galluogi'r cyngor i ddarparu lleoedd ar gyfer pob cais a rhagwelir yn y dyfodol.
Mae'r estyniad yn golygu y bydd y cyngor hefyd yn creu arbedion ar bob lleoliad allanol na allwn ddarparu ar eu cyfer ar hyn o bryd a sicrhau y gall ein dysgwyr dderbyn eu haddysg yn y Fwrdeistref. Rydym wedi gwneud cynlluniau i sicrhau yr aflonyddir cyn lleied â phosibl ar ddysgwyr ar y safle yn ystod y gwaith adeiladu.”