Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 2 Chwefror 2021
Mae Cyngor Torfaen wedi symud ymlaen gyda dau brosiect gyda’r nod o ganfod atebion arloesol i wella gofal i drigolion.
Y prosiectau hyn yw’r cam diweddaraf yn yr Her GovTech a ariennir gan Lywodraeth y DU, i wella cyflenwad gwasanaethau mewn gofal cymdeithasol i oedolion.
Mae’r cyngor wedi cwtogi’r her i lawr i ddau gwmni llwyddiannus a fydd, ill dau, yn derbyn cyllid i ddatblygu eu syniadau arloesol dros y flwyddyn nesaf. Bydd y cwmnïau yn derbyn hyd at £500,000 gan gronfa Catalydd GovTech Swyddfa’r Cabinet i ddatblygu dulliau arloesol o weithio.
Mae Nquiringminds wedi cynnig CareAnalytics, system ddigidol sy’n gwneud gwell defnydd o ddata. Gan ddefnyddio’r protocolau diogelwch a phreifatrwydd diweddaraf, bydd yn cyfuno gwybodaeth fewnol ac allanol i helpu staff i gymryd penderfyniadau cydweithredol a hirdymor gwell. Bydd cyfuno ffynonellau data yn caniatáu i ddarparwyr gofal weld gwybodaeth wedi ei phersonoli er mwyn gallu gwneud eu gwaith, cydweithredu a chymryd penderfyniadau. Yn y cefndir, defnyddir technegau modelu ac ystadegol er mwyn gallu defnyddio tueddiadau yn y data i sicrhau bod gofal yn cael ei gynllunio’n dda, ei fod yn amserol ac yn effeithiol.
Mae Spry yn datblygu pecyn caffael gofal cartref newydd gyda’r nod o arbed amser, cynyddu ymgysylltiad, dewisiadau i ddefnyddwyr gofal a bydd yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r farchnad ofal leol.
Bydd yn cydbwyso nifer o elfennau cymhleth megis amser teithiau, dymuniad o ran gofalwr, anghenion a’r tebygolrwydd o asiantaeth yn derbyn ymweliad gofal i gyflenwi’r pecyn gofal gorau. Bydd defnyddwyr gofal, gofalwyr di-dâl a theuluoedd yn dewis y gofalwr yn uniongyrchol, yn rheoli’r gyllideb ac yn gallu cynyddu neu leihau gwasanaethau gofal pan ddymunir. Bydd teuluoedd yn derbyn hysbysiadau ar ôl ymweliadau, gallent edrych ar y gyllideb a diweddaru cynlluniau gofal.
Meddai Aelod Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Torfaen, y Cynghorydd Dave Daniels,: “Detholwyd y prosiectau arloesol yma o nifer o syniadau ansawdd uchel a oedd oll yn cynnig atebion arloesol i’r her o gael gwell gofal cymdeithasol i oedolion. Bydd yn gyffrous gweld sut y bydd y ddau yn symud ymlaen yn y cyfnod nesaf.”
Mae’r Catalydd GovTech wedi rhoi cefnogaeth i bum prosiect i helpu i greu gwell systemau gofal cymdeithasol i oedolion. Mae’r dyfarniadau yn rhan o’r Rhaglen Catalydd GovTech £20 miliwn a lansiwyd gan Swyddfa’r Cabinet ym mis Tachwedd 2017 i helpu cwmnïau arloesol i ddatrys heriau sector cyhoeddus drwy gyfrwng technolegau arloesol a newydd.