Wedi ei bostio ar Dydd Iau 9 Rhagfyr 2021
Fe wnaeth cannoedd o redwyr wedi gwisgo mewn gwisgoedd Siôn Corn gymryd rhan ran yn ras Nadoligaidd flynyddol Age Connects Torfaen.
Denodd y ras hwyl flynyddol 300 o bobl wedi'u gwisgo mewn siwtiau Siôn Corn, cyrn ceirw, a'u creadigaethau Nadoligaidd eu hunain i Barc Pont-y-pŵl ddydd Sul, 5 Rhagfyr.
Fe wnaeth pobl rhedeg neu gerdded nail ai 2k neu 5k drwy Barc Pont-y-pŵl, a chodi swm o £1500 i elusen Age Connects Torfaen wrth wneud hynny.
Defnyddir yr arian i brynu diffibriliwyr i’w rhoi y tu mewn a thu allan i Ganolfan Widdershins, i’w defnyddio gan y ganolfan a'r gymuned leol.
Hwn oedd y tro cyntaf i'r digwyddiad gael ei gynnal ers y pandemig.
Dywedodd Emma Wootten, Cydlynydd Datblygu Age Connects Torfaen: “Mae ein Ras Siôn Corn flynyddol bob amser yn ddigwyddiad mor wych sy'n cychwyn tymor y Nadolig. Fe wnaethon ni fethu â chynnal y ras y llynedd oherwydd cyfyngiadau coronafirws, felly roedd yn teimlo'n arbennig iawn cael ein cymuned at ei gilydd eto ar gyfer un o'n hoff ddigwyddiadau Nadoligaidd.
Mae'n dangos gwytnwch y gymuned yn Nhorfaen - mae pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau mawr fel hyn. Roedd awyrgylch gwych ac roedd y môr o wisgoedd Nadoligaidd yn wledd i’r llygad.
Diolch i bawb a gofrestrodd ac a gododd arian ar ein rhan; mae'r gefnogaeth yr ydym wedi ei chael wedi bod yn wirioneddol anhygoel i'r Elusen. Diolch hefyd i’n gwirfoddolwyr anhygoel a gyflawnodd ddyletswyddau pwysig, gan gynnwys cofrestru ein Siôn Cyrn a helpu o amgylch y cwrs - ni allem fod wedi ei wneud heb eu cefnogaeth deyrngar. ”
Mae Age Connects Torfaen yn elusen ar gyfer pobl hŷn sy'n byw yn Nhorfaen ac sy'n anelu at leihau tlodi, unigrwydd ac arwahanrwydd trwy ddarparu gwybodaeth, gweithgareddau a chynyddu annibyniaeth y rheini sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://ageconnectstorfaen.org.uk/