Gwastraff - diweddariad

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Rhagfyr 2021

Dim ond i’ch atgoffa, mae ein criwiau gwastraff ac ailgylchu yn gweithio bob dydd dros gyfnod y Nadolig felly mae eich dyddiau casglu yn aros yr un fath.

Fodd bynnag, rydym yn gweld lefelau uchel o absenoldeb salwch yn y tîm oherwydd achosion covid-19 positif, staff yn hunan-ynysu wrth aros am eu canlyniadau PCR a pheth salwch cyffredinol.

O ystyried y gwastraff ychwanegol a roddir allan dros y Nadolig, gallai hyn arwain at darfu ar rai rowndiau casglu.

Dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf rydym yn disgwyl i lefelau absenoldeb salwch amrywio ond rydym yn disgwyl y bydd ond yn cynyddu, a allai achosi pwysau ychwanegol i’r tîm a chreu ymyrraeth pellach i’n gwasanaethau.

Gadewch unrhyw gynwysyddion a fethwyd allan os gwelwch yn dda a byddwn yn ceisio dychwelyd cyn gynted ag y bo modd, ac fel rheol gyffredinol byddwn bob amser yn blaenoriaethu gwastraff biniau caead piws (gwastraff cyffredinol) a chasgliadau gwastraff bwyd.

Dros y cyfnod hwn rydym wedi adleoli cydweithwyr o’n timau strydlun a byddwn yn defnyddio eu cerbydau cawell nhw i gynorthwyo gyda chasgliadau.

Cesglir y rhan fwyaf o ddeunydd ailgylchu yn wythnosol  felly helpwch y criwiau drwy roi allan dim ond y cynwysyddion sydd angen eu gwagio yr wythnos honno. Bydd cywasgu cardbord hefyd yn creu mwy o le yn eich sach las.

Os oes gennych fwy nag un blwch du, didolwch ddeunydd ailgylchu gymaint ag y bo modd er mwyn helpu criwiau i weithio’n gyflymach a chyrraedd mwy o gartrefi.

Os na chesglir deunydd ailgylchu, gellir mynd ag i’r ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ. Mae cannoedd o slotiau ar gael y rhan fwyaf o ddyddiau felly cliciwch yma (insert link) er mwyn bwcio slot.

Diolch am eich amynedd a chyfarchion yr ŵyl gan bawb yn y tîm.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/01/2022 Nôl i’r Brig