Wedi ei bostio ar Dydd Iau 23 Rhagfyr 2021
Mae’r Gwasanaeth Chwarae wedi bod yn brysur dros yr ŵyl yn darparu gweithgareddau hwyliog i deuluoedd yn Nhorfaen.
Cymerodd dros 300 o blant ran mewn cyfres o Wersylloedd Chwarae a Lles mewn ysgolion lleol, gan eu galluogi i fod yn weithgar, yn greadigol ac i gael hwyl yn cefnogi ac yn annog lles cadarnhaol.
Dywedodd Dawn James, oedd â’i mab 10 oed, Daniel, yn mynychu’r gwersylloedd, "Mae Daniel yn mwynhau dod i’r sesiynau yma’n fawr. Ar ôl mynychu yn ystod yr haf ac yn awr dros wyliau’r Nadolig, mae e’n cael llawer o hwyl a chyfle i wneud ffrindiau newydd.
"Mae’n mwynhau bod yn weithgar ac yn greadigol ac yn mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau i gyd, yn arbennig pêl-droed a chrefftau. Mae’r staff yn wych ac yn cynnig gwasanaeth ardderchog."
Cymerodd mwy na 50 o blant gydag amrywiaeth o anableddau ac ymddygiadau cymhleth ran hefyd yn y gweithgareddau mewn Sesiynau Chwarae a Seibiant ychwanegol.
Cefnogwyd y sesiynau i gyd gan bron i 40 o Wirfoddolwyr y Gwasanaeth Chwarae, a gynlluniodd ac a gyflenwodd weithgareddau i wella lle plant trwy chwarae.
Hefyd, cafwyd tro ar y Corrach o Amgylch Torfaen, a gyflwynwyd yn ystod yr haf, gyda dros 1000 o gorachod yn cael eu rhoi i bobl o bob oed i’w paentio a’u haddurno.
Rhoddwyd pecynnau chwarae hefyd i blant a phobl ifanc mewn mannau amrywiol yn y fwrdeistref a’u cludo i rai cartrefi.
Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cyng. Fiona Cross, 'Pob blwyddyn, mae’r Gwasanaeth Chwarae yn cynnig darpariaeth chwarae i blant a phobl ifanc yn Nhorfaen fel rhan i’r Cynllun Gwaith Digonolrwydd Chwarae.
Mae’n cynnwys darparu nifer o gyfleoedd i chwarae, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnwys cefnogaeth i chwarae i blant a phobl ifanc bregus yn ogystal â phrosiect gwirfoddoli poblogaidd i bobl ifanc.
Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud i hyn ddigwydd trwy gydol y flwyddyn, mae’n rhoi profiad gwych i gymaint o blant ac atgofion iddyn nhw edrych yn ôl arnynt."
Ariannwyd y prosiectau i gyd trwy Gronfa Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru ac roedden nhw’n cefnogi Cynghorau Tref a Chymuned.
Am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Chwarae Torfaen, ewch i wefan Cyngor Torfaen - www.torfaen.gov.uk