Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21 Rhagfyr 2021
Mae rhyw 60 o blant gydag anallu synhwyraidd wedi derbyn pecynnau yn llawn teganau ac offer synhwyraidd er mwyn gallu cymryd rhan mewn sesiynau cylch chwarae arbennig yn y cartref.
Mae’r Cylch Chwarae Edrych yn Bositif a redir gan y Gwasanaeth SenCom, yn cynorthwyo plant i ddatblygu a defnyddio eu golwg, datblygu sgiliau cyfathrebu a deall eu hamgylchedd.
Rhoddwyd y pecynnau synhwyraidd i’r plant ar ddechrau’r pandemig pan nad oedd y cylchoedd chwarae yn gallu digwydd wyneb yn wyneb. Ers hynny, mae’r grwpiau wedi dychwelyd i gyfuniad o ddosbarthiadau wyneb yn wyneb ac arlein.
Mae’r pecynnau, sy’n cynnwys drychau, pom-poms a goleuadau wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu plant fel Cooper i barhau i ddatblygu yn y cartref.
Meddai Tara Morgan, o Flaenafon, sydd wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth gyda’i mab blwydd oed Cooper am yr ychydig fisoedd diwethaf: “Mae’r grŵp wedi bod mor groesawgar, ac mae Cooper wedi elwa o wella ei gydgysylltiad llaw-llygaid o ganlyniad i gymryd rhan yn y gweithgareddau a’r gemau a gynigir.
“Yn ddiweddar mae Cooper wedi cael presgripsiwn sbectol, ac rwyf wedi bod yn cael trafferth i’w gael i’w gwisgo, ond mae’r staff wedi rhoi llawer o syniadau i mi roi cynnig arnyn nhw ac mae wedi bod yn ddefnyddiol dros ben.”
Meddai Andrew Jones, sy’n Athro Cymwysedig Anallu Golwg ac Aml-Synhwyrau yn SenCom: “Mae ein dosbarthiadau cyn ysgol anallu gweld yn cael eu harwain gan staff profiadol o’r gwasanaeth anallu gweld, ac yn cyfarfod unwaith yr wythnos. Mae’r grŵp yn rhoi cyfle i rieni gyfarfod ei gilydd.
“Rydym wedi canfod bod hyn wedi bod yn gymorth mawr i lawer o rieni disgyblion y gwasanaeth dros y blynyddoedd. At hyn, mae’r sesiwn wyneb yn wyneb yn golygu y gall rhieni weithio’n uniongyrchol gyda’r staff AG. Yn y modd hwn, gall rhieni ddysgu gan yr arbenigwyr AG sut orau i ddatblygu golwg a chyfathrebu eu plant.
“Hoffem hefyd ddiolch i fenyw leol, Pauline Diamond, a redodd hanner marathon a chodi £1,000 i’r gwasanaeth. Mae blychau Tonie wedi eu prynu gyda’r arian ac fe’u defnyddir yn y cylchoedd chwarae a chyda disgyblion mewn ysgolion.”
Mae sesiynau cylch chwarae wyneb yn wyneb yn cychwyn am 10am yn swyddfeydd SenCom yn Llantarnam, gyda sesiynau rhithwir yn cychwyn am 11am.
Mae SenCom yn wasanaeth rhanbarthol awdurdod lleol yn cynnwys tri tîm arbenigol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gydag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu neu sydd ag anallu clywed, golwg neu aml-synhwyrau.
I gael rhagor o wybodaeth am y cylch chwarae a gwasanaethau cymorth ehangach sydd ar gael, ebostiwch: VIS@Torfaen.gov.uk neu ewch i wefan Torfaen.