Oedi i ddechrau'r tymor newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Rhagfyr 2021

Oherwydd effaith bosibl yr amrywiad Covid-19 Omicron dros yr wythnosau nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo pob ysgol yng Nghymru i agor 2 ddiwrnod yn ddiweddarach yn y tymor newydd (ar gau ddydd Mawrth 4ydd a dydd Mercher 5ed Ionawr) i baratoi ar gyfer unrhyw aflonyddu posibl i’r dysgu a’r addysgu.

Bydd y dyddiau hyn yn rhoi amser ychwanegol i'r ysgol asesu gallu staffio, ailystyried asesiadau risg a lliniaru a rhoi unrhyw fesurau angenrheidiol ar waith i gefnogi dysgwyr i ddychwelyd.

Mae hon yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym iawn felly byddwn hefyd yn sicrhau, os bydd unrhyw ddiweddariadau pellach dros y gwyliau, y byddwn yn rhannu'r rhain cyn dychwelyd i'r ysgol ar 6 Ionawr.

I gael gwybodaeth gyffredinol am ysgolion a Choronafirws yng Nghymru ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/12/2021 Nôl i’r Brig