Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Rhagfyr 2021
Ni fydd unrhyw newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu dros yr ŵyl gan fod y criwiau bellach yn gweithio ar wyliau banc.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Unwaith eto bydd ein criwiau’n gweithio dros wyliau banc i gasglu gwastraff ac ailgylchu, felly bydd casgliadau’n digwydd ar y diwrnod arferol.
“Er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o hyn, rydyn ni'n gofyn i drigolion rannu'r wybodaeth gyda theulu a ffrindiau i sicrhau na fydd unrhyw un yn methu’r casgliad.
“Mae’r flwyddyn hon wedi parhau i fod yn anodd i griwiau oherwydd Covid-19, a cherbydau sydd wedi gweld dyddiau gwell. Hoffwn ddiolch unwaith eto i drigolion am eu hamynedd gyda chriwiau gwastraff ac ailgylchu, a hoffwn ddiolch i'n criwiau am barhau i weithio'n galed mewn amodau heriol. "
Mae'r dyddiadau casglu diwygiedig fel a ganlyn:
Revised collection dates
Diwrnod Casglu Arferol | Diwrnod Casglu |
Dydd Gwener 24 Rhagfyr
|
Dydd Gwener 24 Rhagfyr
|
Dydd Llun 27 Rhagfyr
|
Dydd Llun 27 Rhagfyr
|
Dydd Mawrth 28 Rhagfyr
|
Dydd Mawrth 28 Rhagfyr
|
Dydd Mercher 29 Rhagfyr
|
Dydd Mercher 29 Rhagfyr
|
Dydd Iau 30 Rhagfyr
|
Dydd Iau 30 Rhagfyr
|
Dydd Gwener 31 Rhagfyr
|
Dydd Gwener 31 Rhagfyr
|
Dydd Llun 3 Ionawr 2022
|
Dydd Llun 3 Ionawr 2022
|
Gair i atgoffa – mae angen rhoi’r holl wastraff ac ailgylchu allan cyn 6am ar y diwrnod casglu.
Gwahanu'ch gwastraff
Er mwyn helpu ein criwiau, byddai'n ddefnyddiol pe bai trigolion yn gwahanu eu heitemau hailgylchu gymaint â phosibl. Mae hyn nid yn unig yn cyflymu casgliadau oherwydd nad oes rhaid i griwiau ddidoli eitemau â llaw, ond mae'n lleihau swm y gwastraff y mae'n rhaid i griwiau ei drin a byddai hyn yn cael ei werthfawrogi'n fawr yn ystod yr hinsawdd sydd ohoni.
Gwasgu
Gall gwasgu eich eitemau ailgylchu ryddhau lle yn eich biniau a'ch blychau, felly gwasgwch gymaint ag y gallwch.
Gwastraff ychwanegol
Rydym yn gwerthfawrogi y bydd gwastraff ychwanegol yn cael ei gynhyrchu dros yr ŵyl, hyd yn oed ar ôl i drigolion ailgylchu cymaint ag y gallant. Felly, er mwyn helpu i reoli hyn, byddwn yn casglu hyd at ddau fag du ychwanegol o sbwriel o bob cartref pan fyddwn yn casglu’r biniau â chlawr porffor cyntaf yn unig, ar ôl y Nadolig. Gwnewch yn siŵr bod y bagiau'n cael eu gosod wrth ymyl y bin â chlawr phorffor.
Byddwn yn hynod o brysur yn casglu'ch gwastraff a'ch ailgylchu yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd felly hoffem gynghori trigolion i adael eu biniau, blychau a bagiau allan nes eu bod wedi'u gwagio.
Dim ond os ydym wedi eu methu y byddwn yn dychwelyd i wagio biniau/blychau/ bagiau.
Papur lapio
Oherwydd nad yw cwmnïau ar hyn o bryd yn derbyn papur lapio i'w ailgylchu, rhowch ef yn y bin â chlawr porffor.
Ailgylchu coed Nadolig
Os oes gennych goeden Nadolig iawn, pan fydd hi wedi gweld dyddiau gwell, gallwch fynd â hi i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i’w malu i greu compost.
Cardiau Nadolig
Rhowch eich cardiau Nadolig yn eich bag cardbord glas i’w hailgylchu.
Amserau Agor Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC)
Bydd CAGC ar agor:Dydd Gwener 24 - 10am-4pm
Dydd Sadwrn 25 – Ar gau
Dydd Sul 26 – Ar gau
Dydd Llun 27 – 10am – 4pm
Dydd Mawrth 28 – 10am – 4pm
Dydd Mercher 29 – 10am – 4pm
Dydd Iau 30 – 10-4pm
Dydd Gwener 31 – 10am – 4pm
Dydd Sadwrn 1 Ion 2022 – Ar gau
Bydd Oriau arferol yn ailgychwyn ddydd Sul 2 Ionawr.
Sicrhewch eich bod wedi archebu slot ar gyfer eich car neu fan yn y GAGC ac wedi didoli'ch gwastraff a'ch ailgylchu cyn cyrraedd. Archebu’ch slot yma