Dal dyn o Gwmbrân yn gwerthu tybaco ffug ar Facebook

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021

Mae dyn wedi ei erlyn yn llwyddiannus gan dîm Safonau Masnach Cyngor Torfaen am werthu tybaco ffug ar Facebook.

Plediodd Spencer Williams o 50 Rhymney Court, Bryn Eithin, Cwmbrân, yn euog i’r drosedd yn Llys Ynadon Casnewydd yr wythnos ddiwethaf.  Cafodd ddirwy o £160 a’i orchymyn i dalu costau o £408.80, a gordal dioddefwyr o £34.

Cafodd busnes Mr Williams ei ddarganfod ar Facebook gan swyddogion oedd yn mynd trwy lwyfannau gwerthu cyfryngau cymdeithasol.  Mae swyddogion yn gwneud hyn yn ôl trefn arferol, yn ogystal ag ymweliadau i sicrhau fod busnesau’n cydymffurfio â chyfreithiau sydd â’r bwriad o warchod defnyddwyr.

Dangosodd pryniant prawf gan y tîm nad oedd y tybaco mewn pecyn safonol gofynnol.  Cafwyd prawf mewn labordy, a gadarnhaodd eu bod yn ffug ac nad oedd modd eu gwerthu’n gyfreithlon.

Gwnaeth swyddogion gais ar warant gan Lys yr Ynadon i chwilio eiddo Mr Williams yng Nghwmbrân.  Yn ystod y chwilio, daethon nhw o hyd i swm sylweddol o dybaco ffug yn barod i’w werthu.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’r ddedfryd yn dangos yn glir pa mor ddifrifol mae’r troseddau yma ym marn y Llys. Mae gwerthiant nwyddau ffug yn niweidio iechyd a chyfoeth ein cymunedau.  Mae’r hyn sy’n cael ei gynnwys mewn tybaco ffug yn gallu bod yn hynod niweidiol i bobl sy’n smygu. Mae effaith hefyd ar werthwyr cyfreithlon trwy gystadleuaeth annheg yn y fasnach, a gall effaith yn fod yn fwy oherwydd y pandemig.

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi’r economi leol, a bydd yn gweithio i sicrhau fod busnesau’n cystadlu’n gyfartal. Mae’n bryder pan fo pobl fel Mr Williams yn gwerthu nwyddau ffug, a byddwn yn parhau i geisio cael gwared ar arferion o’r fath.

“Rydym yn annog unrhyw un sy’n cael trafferth fforddio tybaco i ystyried rhoi’r gorau i ysmygu gyda chymorth gwasanaethau priodol, yn hytrach na throi at y farchnad anghyfreithlon.”

“Gall tybaco ffug arwain at anadlu lefelau uwch o dar, carbon monocsid a sylweddau niweidiol eraill, o’u cymharu â thybaco go iawn.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am unigolion sy’n gwerthu nwyddau ffug gysylltu â thîm Safonau Masnach Torfaen ar 01633 647623  neu drwy ddanfon e-bost at trading.standards@torfaen.gov.uk 

Os ydych chi angen cymorth i stopio ysmygu, cysylltwch â Stopio Smygu Cymru ar radffôn 0800 085 2219 neu ewch at y wefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 14/12/2021 Nôl i’r Brig