Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Rhagfyr 2021
Derbyniwyd dros 800 o anrhegion i Apêl Siôn Corn Torfaen eleni.
Bydd ychydig dros 200 o blant ac oedolion ifanc, a fyddai fel arall yn colli allan y Nadolig hwn, yn derbyn detholiad o roddion, diolch i haelioni aelodau’r cyhoedd a busnesau lleol yn Nhorfaen.
Bydd hamperi Nadolig hefyd yn cael eu danfon i bobl ifanc a theuluoedd y nodwyd eu bod yn wynebu caledi ariannol.
Nod Apêl Siôn Corn Torfaen yw helpu pobl ifanc yn Nhorfaen sy'n wynebu tlodi neu’r rheini efallai nad ydyn nhw mewn cysylltiad â'u teuluoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau,
“Unwaith eto mae ein cymunedau a’n busnesau wedi bod mor hael, gan fynd cam ymhellach i gefnogi Apêl Siôn Corn eleni.
Mae'n galonogol gwybod y bydd yr anrhegion a'r hamperi hyn, heb os, yn rhoi gwên ar wynebau ein plant mwyaf bregus. Diolch o waelod calon i bawb sydd wedi cyfrannu at yr achos teilwng hwn. ”