Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 8 Rhagfyr 2021
Mae’r podlediad poblogaidd Word From The Third newydd ddathlu ei ben-blwydd cyntaf.
Cynhyrchir y podlediad gan Gynghrair Wirfoddol Torfaen ac mae’n rhoi cyfle i fudiadau a grwpiau lleol amlygu eu gwaith neu eu prosiectau.
Gyda mwy na mil o ffrydiau dros 24 pennod, mae’r podlediad yn parhau i ddatblygu’n gyflym ar gyfer mudiadau sydd eisiau rhoi cyhoeddusrwydd i’w gwaith mewn ffordd wahanol.
Mae’r gyfres ddiweddaraf yn cynnwys; The Really Amazing Charity (TRAC2), wedi ei leoli yn Nhrefddyn, sy’n cynorthwyo teuluoedd incwm isel; CoStar, sy’n elusen annibynnol yng Nghwmbrân a Papyrus, sy’n cynnig help a chyngor i bobl ifanc sy’n meddwl am hunanladdiad.
Mae’r podlediad hefyd yn cynnwys Côr Meibion Pontnewydd.
Meddai Patrick Downes, Cynhyrchydd Word From The Third ar ran CWT;
“Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw grŵp neu fudiad yn Nhorfaen gyfleu eu neges mewn ffordd wahanol.
“Mewn podlediadau yn y gorffennol, rydym wedi dysgu beth yw Pickleball, wedi siarad am y Cyfrifiad, ynghyd â chlywed gan brosiectau cyflogadwyedd Cymunedau am Waith a Mwy a Sight Cymru.
“Rydym nawr eisiau datblygu pethau ymhellach a gwahodd mwy o fudiadau i ymuno yn y sgwrs a chyfleu eu neges drwy ein llwyfan”.
Os hoffai eich mudiad neu eich grŵp cymunedol chi fod yn rhan o bodlediad CWT, yna cysylltwch â nhw yn tvawales.org.uk/contact-us/ , neu, ar y cyfryngau cymdeithasol. Chwiliwch am @TVAWales.
Gallwch hefyd wrando ar benodau drwy chwilio am Word From The Third Torfaen ar bob llwyfan podlediad mawr.
Hefyd, os oes gennych uchelseinydd clyfar Google neu Amazon, gallwch ofyn i’r ddyfais ei chwarae, neu gallwch glicio https://podfollow.com/1532209097
Os ydych yn grŵp cymunedol lleol, yn fudiad gwirfoddol, clwb chwarae neu leoliad cymunedol yn Nhorfaen, gall CWT eich helpu gyda chefnogi gwirfoddolwyr, eich trefniadau llywodraethu, cyfleoedd ariannu a chymorth arlein.