Parciau Chwarae Cynhwysol i Gwmbrân a Phont-y-pŵl

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 8 Rhagfyr 2021
Inclusive Play Parks for Cwmbran and Pontypool

Yn ddiweddar, fe wnaeth pwyllgor cabinet cyngor Torfaen gymeradwyo cynlluniau i fuddsoddi £1.2 miliwn i helpu’r gymuned i adfer yn dilyn effeithiau covid-19.

Roedd un o'r prosiectau a gymeradwywyd yn cynnwys dyrannu £259,365 i ychwanegu offer chwarae synhwyraidd cynhwysol ar safle Llyn Cychod Cwmbrân a Pharc Pont-y-pŵl.

Roedd yr arian wedi’i neilltuo y llynedd i helpu i ymateb i ystod o effeithiau negyddol yn dilyn y pandemig ac yn arbennig i wella’r amgylchedd lleol a mynd i’r afael ag effeithiau ar bobl ifanc ac anghydraddoldebau.

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau yn Nhorfaen: “Mae ardaloedd chwarae synhwyraidd yn arbennig o fuddiol i blant sydd ag anhwylderau prosesu synhwyraidd. Bydd y prosiect hwn yn cynorthwyo lles corfforol a meddyliol ein pobl ifanc, yn enwedig y plant ag anableddau. "

Dywedodd Cheryl Deneen, Swyddog Cymorth Awtistiaeth Torfaen: “Mae chwarae’n rhan bwysig o ddatblygiad plentyn ac mae'n rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu wrth gael hwyl. Yn aml, mae chwarae yn heriol i blant ag awtistiaeth, felly mae chwarae cynhwysol yn rhywbeth y dylai pob plentyn gael cyfle i'w wneud, waeth beth yw ei anghenion unigol. Ein nod yw i bob plentyn gael profiad chwarae cadarnhaol a pheidio â theimlo nad ydynt yn cael eu heithrio "

Dywedodd Becky Driscoll o ganolfan blant TOGS yn Y Dafarn Newydd: “Bydd cael lleoedd chwarae cynhwysol newydd yn Nhorfaen yn gwella ansawdd chwarae i’r holl blant a phobl ifanc. Bydd yn darparu lleoedd sy’n caniatáu i blant ag anableddau ac anghenion ychwanegol chwarae a rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas a chael yr un cyfleoedd chwarae ag eraill. ”

Dywedodd y Cynghorydd Amanda Owen, Aelod Gweithredol yr Amgylchedd: “Mae archwiliad cyfleusterau chwarae wedi nodi bod y fwrdeistref yn brin o offer chwarae addas i blant ag anableddau. Yn hytrach na gwasgaru offer ar draws y fwrdeistref, cytunwyd y gellir cael effaith lawer mwy trwy integreiddio offer arbenigol yn ein parciau chwarae poblogaidd i helpu pob plentyn i chwarae gyda'i gilydd.

“Rydyn ni am i’r prosiect hwn symud yn gyflym felly’r cam nesaf yw ymgysylltu â phobl ifanc, rhieni a grwpiau anableddau cyn cytuno ar ddyluniad ym mis Mawrth. Ar ôl eu dylunio, bydd y cyngor yn archebu'r offer a gobeithiwn y bydd y cyfleusterau gwych hyn yn barod i'w defnyddio erbyn yr haf. "

Y prosiectau a'r cyllidebau ehangach a gymeradwywyd o'r gronfa adfer oedd:

  • £466,000 ar gyfer gwelliannau i ganol trefi Pont-y-pŵl a Blaenafon
  • £200,000 i helpu cynhwysiant ariannol a thaliadau disgresiwn at gostau tai i helpu'r rhai mwyaf anghenus gyda chostau byw
  • £30,000 i wella asedau ar Gamlas Sir Mynwy ac Aberhonddu ac i ymgysylltu â grwpiau cymunedol
  • £70,000 i weithio gyda Chyfeillion Parc Pont-y-pŵl i atgyweirio ac ailagor y Groto Cregyn a'r Ffoli sy'n atyniadau i ymwelwyr
  • £50,000 i fusnesau bach a grantiau cychwyn i fusnesau newydd, yn canolbwyntio ar welliannau digidol
  • £40,000 am wasanaethau cwnsela ychwanegol am ddim i bobl ifanc 7-19 oed yng Nghanolfan Ieuenctid Cwmbrân
  • £25,000 ar gyfer cyrsiau hyfforddi cymorth cyntaf iechyd meddwl i bobl ifanc ac oedolion
  • £59,635 i gychwyn y broses o ddatblygu cae chwaraeon cymunedol newydd â llifolau, sy'n addas i bob tywydd, yng ngogledd y Fwrdeistref.

Bydd rheolwr prosiect yn rheoli pob prosiect gyda rhai prosiectau yn medru dechrau ar unwaith ac eraill yn gorfod cynllunio a chyflawni o fewn terfynau amser y cytunir arnynt.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/12/2021 Nôl i’r Brig