Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021
Annwyl drigolion
Rwy'n gwybod bod llawer ohonoch wedi bod yn teimlo'n rhwystredig yn ddiweddar oherwydd cynnydd yn y casgliadau gwastraff ac ailgylchu a fethwyd.
Hoffwn roi sicrwydd ichi fod camau wedi'u cymryd i ddatrys materion a grëwyd yn bennaf oherwydd cerbydau sydd wedi gweld dyddiau gwell, a phrinder gyrwyr/casglwyr oherwydd covid a heriau recriwtio.
Nid yw'r farchnad swyddi a heriau covid yn unigryw i Dorfaen, ond yn ddiweddar gwnaethom gynnal ymarfer recriwtio llwyddiannus a byddwn yn falch o weld 12 aelod o staff newydd yn ymuno â ni cyn bo hir.
Yn y tymor byr byddwn hefyd yn defnyddio'r cerbydau gwastraff gardd a'r cerbydau tipio i atgyfnerthu’r casgliadau cardbord a bwyd. Pa bynnag gerbyd a ddefnyddir, bydd yr holl ddeunyddiau'n dal i gael eu hailgylchu.
Hoffwn hefyd gyfleu fy nghefnogaeth i'n gweithwyr rheng flaen unwaith eto, a diolch iddynt gan fod hyn wedi gwneud gwaith anodd yn anoddach fyth i gyflawni'r rowndiau dyddiol.
Rydw i wir yn diolch i drigolion am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
Os oes gennych ddiddordeb i weithio i’r cyngor, mewn amrywiol rolau, ewch i Swyddi Gwag | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Cofion cynnes
Y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd