Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021
Mae Cyngor Torfaen wedi gosod byrddau dehongli newydd ym mhedwar o’i Warchodfeydd Natur Lleol (GNLl) i helpu cymunedau i ddarganfod gwerth y natur ar stepen eu drws.
Mae’r byrddau yn Henllys, Cwmynyscou, Tirpentwys a Choridor Cwmafon yn esbonio sut a pham y mae’r safleoedd yn cael eu rheoli ar gyfer pobl a natur, y math o gynefinoedd bywyd gwyllt a’r rhywogaethau sy’n bodoli ar bob safle a beth i chwilio amdano pan fyddwch allan am dro. Mae gan y byrddau newydd gôd QR hefyd wedi eu hychwanegu at y dyluniad sy’n eich cyfeirio i Ganolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC) lle gallwch ddysgu mwy am bwysigrwydd cofnodi’r hyn rydych yn ei weld.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: “Mae’r byrddau dehongli yn ffordd dda o ddod i adnabod y GNLl yn well, ac i werthfawrogi eu gwerth yn well. Rydym eisiau gallu eu hamddiffyn a’u gwella fel bod gan genedlaethau’r dyfodol dreftadaeth sydd o leiaf mor gyfoethog ac amrywiol a’r un rydym ni wedi ei hetifeddu.”
Ariennir y prosiect yn rhannol gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Warchodfeydd Natur Lleol yn Nhorfaen.