Gweithredu dros aroglau

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Rhagfyr 2021

Mae menyw wedi cael ei herlyn yn llwyddiannus gan Gyngor Torfaen o dan y Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 am achosi niwsans i’w chymdogion trwy adael i faw ci gronni yn ei iard gefn.

Plediodd Ms Donovan, 7 Elizabeth Row, Tal-y-waun, yn euog i’r drosedd yn Llys Ynadon Casnewydd.  Cafodd ddirwy am £180 gyda gostyngiad i £120 am bledio’n euog yn gynnar, gordal dioddefwyr o £35 a’i gorchymyn i dalu £500 o gostau i’r Cyngor.

Ymatebodd Swyddogion Iechyd Amgylcheddol Cyngor Torfaen i gwynion am faw ci oedd wedi cronni  yn iard gefn Ms Donovan. Ar ôl ymchwiliadau, gwelwyd nad oedd Ms Donovan wedi bod yn glanhau baw ei 3 chi’n rheolaidd.  Roedd hyn wedi achosi arogleuon cas ac wedi denu clêr, gan effeithio ar eiddo cyfagos. Roedd ymdrechion anffurfiol i geisio ymgysylltu â Ms Donovan i ddatrys y mater yn aflwyddiannus, felly bu rhaid i’r Cyngor roi hysbysiad cyfreithiol yn mynnu ei bod yn cymryd camau i atal ei bod yn achosi niwsans.

Er i’r Cyngor roi hysbysiad cyfreithiol, cafwyd adroddiadau pellach o arogleuon a chlêr.  Arweiniodd hyn at erlyn Ms Donovan am fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad trwy barhau i achosi niwsans.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Pan fo cwynion dilys o niwsans yn cael eu derbyn gan y Cyngor, mae swyddogion yn ceisio gweithio gyda’r unigolion sy’n gyfrifol er mwyn datrys y mater yn anffurfiol, Serch hynny, pan nad yw ymdrechion anffurfiol yn llwyddo, gall camau ffurfiol, gan gynnwys erlyn gerbron y llys, fod yn angenrheidiol er budd diogelwch cyhoeddus. Yn yr achos yma, roedd Ms Donovan yn gwbl ddifater ynghylch yr effaith yr oedd yr amgylchiadau yn ei chartref yn cael ar ei chymdogion.

“Roedd arogl y baw ci yma wedi bod yn llethol i’w chymdogion, ac wedi effeithio ar eu defnydd a’u mwynhad o’u heiddo. Roedd yn iawn i ni ddwyn yr achos yn erbyn Ms Donovan, ac rwy’n gobeithio y bydd hi’n newid ei hymddygiad.  

“Rwy’n cymeradwyo gwaith Swyddogion Iechyd Amgylcheddol y Cyngor, sydd nid yn unig wedi bod yn flaengar o ran ymateb i’r pandemig, ond sydd wedi parhau i ymchwilio i a delio gyda chwynion er mwyn diogelu trigolion sy’n cael eu heffeithio gan niwsans amgylcheddol.”

 

Diwygiwyd Diwethaf: 06/12/2021 Nôl i’r Brig