Wedi ei bostio ar Dydd Iau 2 Rhagfyr 2021
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru’n paratoi ar gyfer prinder gwaed dros y gaeaf yma ac maen nhw’n codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd rhoi’r 'anrheg orau', sef gwaed, y Nadolig yma.
Mae’n hawdd rhoi gwaed ac mae apwyntiadau ar gael yn Nhorfaen trwy gydol Rhagfyr ac Ionawr.
- Rhagfyr 17 a 28 yn Llanyrafon
- Rhagfyr 29 ac Ionawr 6, 19 and 20 yng Ngwesty’r Parkway, Cwmbrân
- Rhagfyr 8 ac Ionawr 14 ym Mhont-y-pŵl
Rhagfyr diwethaf roedd angen bron i 700 o gyfraniadau o waed a chynnyrch gwaed yng Ngwent er mwyn rhoi gofal i gleifion.
Mae’r rhoddion yma’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi amrywiaeth o driniaethau gan gynnwys helpu rhai sydd wedi bod mewn damweiniau, cleifion â chancr y gwaed a mamau a babanod newydd yn ystod genedigaeth.
Os ydych chi’n 17 oed neu’n hŷn, gallwch wneud apwyntiad i roi gwaed trwy: WBS Booking (wales.nhs.uk) neu drwy ffonio 0800 252 266.