Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 24 Awst 2021
Mae bron i ddwy fil o blant wedi mynychu gwersylloedd a redir gan Wasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen yr haf yma.
Er gwaethaf methu â chynnig eu rhaglen boblogaidd arferol o gynlluniau chwarae oherwydd y pandemig Covid-19, mae mwy na 100 o staff a gwirfoddolwyr wedi rhedeg amrywiol wersylloedd drwy gydol gwyliau’r haf.
Maent wedi cysylltu gydag ysgolion cynradd i gynnig Gwersylloedd Dysgu, Chwerthin a Bod yn Egnïol a Gwersylloedd Chwarae a Lles, a oedd yn canolbwyntio ar fwyta’n iach, maethiad a gweithgaredd corfforol.
Maent hefyd wedi cyflwyno sesiynau dyddiol Chwarae yn y Parc a chynllun Chwarae a Seibiant ar gyfer plant gydag anghenion cymhleth ac anableddau o wahanol leoliadau cymunedol. Mae’r rhain wedi cynnwys gweithgareddau fel teithiau natur, bwyta’n iach a sesiynau maethiad, gemau, chwaraeon a gweithgareddau tîm.
Meddai rhiant Sinead Lurvey: "Mae fy mab Jacob wedi mwynhau mynychu’r Gwersyll Lles yn fawr iawn yr haf yma a chymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau. Ar ran Jacob a minnau, hoffwn ddiolch i’r tîm chwarae cyfan yn Nhorfaen.
"Maent wastad yn cyfarch y plant gyda wynebau hapus, yn ymgysylltu â nhw ac yn cael hwyl wrth aros yn actif, maent yn fodelau rôl gwirioneddol iddyn nhw. Rydym yn eu gwerthfawrogi yn fawr."
Ychwanegodd Kelly Longney: "Unwaith eto, mae fy mhlentyn wedi mwynhau’r Gwersyll Dysgu, Chwerthin a Bod yn Egnïol yn fawr iawn. Mae’r staff yn wych o ran cefnogi plant ag anghenion ychwanegol."
Dywedodd y gwirfoddolwr Chloe Sodden: "Rwyf wedi cael profiad gwerthfawr a chael cyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau plant, Roedd yn gyfle hynod i gael bod yn rhan o dîm gwych."
Ychwanegodd Bethan Hughes: "Rwy’n teimlo fy mod wedi meithrin llawer mwy o hyder wrth siarad ag oedolion diolch i’r gwersylloedd chwarae.
"Rwyf wedi dysgu llawer iawn mwy am ofalu am blant a pha mor bwysig yw hi i blant chwarae. Rwyf wirioneddol wedi mwynhau fy haf gyda’r gwasanaeth chwarae."
Meddai Julian Davenne, Rheolwr Gwasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen: "Unwaith eto, mae’r staff a’r gwirfoddolwyr wedi darparu oriau o weithgareddau hwyliog i’r plant sydd wedi caniatáu iddyn nhw gyfarfod pobl eraill a dysgu am iechyd a maethiad.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio neu wirfoddoli gyda’r tîm, ac i’r plant, y teuluoedd a’r gofalwyr sydd wedi cefnogi’r sesiynau."