Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 18 Awst 2021
Mae apêl yn cael ei chyhoeddi ar gyfer mynychwyr prom ysgol neu barti graddio a gynhelir yng ngwesty Cwrt Bleddyn ger Brynbuga ddydd Mercher 11 Awst i gael prawf PCR Covid-19.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi'r apêl ar ôl i nifer sylweddol o achosion positif gael eu cysylltu â phresenoldeb yn y digwyddiad preifat a gynhaliwyd yn y gwesty.
Roedd y digwyddiad yn barti graddio a drefnwyd yn breifat ar gyfer disgyblion blwyddyn 11 Ysgol Gyfun Caerllion yn dilyn eu canlyniadau TGAU. Ni threfnwyd y digwyddiad gan yr ysgol, ond mae wedi anfon negeseuon at ddisgyblion blwyddyn 11 yn eu hannog i gael prawf.
Cynhaliwyd nifer o bartïon ar ôl y digwyddiad, ac o'r herwydd mae'r apêl hefyd yn ymestyn i unrhyw un a fynychodd un o'r partïon hynny.
Mae'r ymateb i'r clwstwr yn cael ei reoli gan Dîm Rheoli Digwyddiadau a bydd gwasanaeth POD Gwent yn cysylltu ag achosion.
Anogir unrhyw un a fynychodd y digwyddiadau hyn i gael profion PCR cyn gynted â phosibl. Anogir mynychwyr sy'n dangos symptomau Covid-19 i hunanynysu ar unwaith ac ymatal rhag cymdeithasu.
Gallwch archebu prawf drwy ffonio 119, neu drwy ymweld https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19.