Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21 Rhagfyr 2021
Mae Cyngor Torfaen yn gofyn i bobl sy’n derbyn gwasanaethau gofal yn y cartref a’u teuluoedd i ddweud am eu profiadau.
Mae’n rhan o brosiect i wella gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymorth yn y gymuned, sy’n helpu trigolion i barhau i fyw gartref.
Mae Cyngor Torfaen yn gweithio gyda dau gwmni technegol, sydd wedi derbyn arian gan gronfa Catalydd GovTech Llywodraeth y DU, i ddatblygu ffyrdd arloesol o gyflenwi gwasanaethau gofal cymunedol.
Gallwch gwblhau’r holiadur byr yma neu ddychwelyd yr arolwg y byddwch yn ei dderbyn trwy’r post yn yr amlen. Y dyddiad cau yw Medi 17.
Daw hyn ar adeg o bwysau eithriadol yn y sector gofal cymunedol oherwydd galw mawr a phrinder staff.
Mae Cyngor Torfaen yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol eraill yng Ngwent i flaenoriaethu adnoddau a recriwtio staff ychwanegol i geisio cyfyngu’r effaith ar bobl sy’n derbyn gofal a chymorth yn y cartref.
Bydd eich adborth yn helpu i asesu lefelau presennol gofal cartref ar draws y fwrdeistref a bydd yn cael ei ddefnyddio i ffurfio dyfodol gwasanaethol gofal cymdeithasol lleol.
Am ragor o wybodaeth am y cwmnïau sy’n gweithio gyda Chyngor Torfaen ar Her GovTech ewch at ein gwefan