Helfa drysor canol tref Pont-y-pŵl

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Awst 2021

Mae Swyddfa’r Post Pont-y-pŵl a masnachwyr annibynnol lleol yn cynnal Helfa Drysor i Blant yng nghanol y dref rhwng dydd Llun 23ain a dydd Sadwrn 28ain Awst.

Mae angen i’r plant ddilyn y cliwiau i gael hyd i’r 10 parsel a llythyr arbennig sydd wedi eu cuddio mewn siopau a busnesau o gwmpas y dref. Ond pwy sydd wedi bod digon ffodus i gael un? Dyna’r hyn sydd angen i bawb ei ddarganfod!

Meddai Nicola Jolliffe, sy’n rheoli’r adrannau siop anrhegion a manwerthu Swyddfa Bost Pont-y-pŵl: “Rydym yn gobeithio y bydd yr helfa drysor yn hwyl mawr i’r plant tuag at ddiwedd gwyliau’r haf. Bydd hefyd yn amlygu rhai o’r siopau a’r busnesau gwych sydd gennym yma yng nghanol y dref”.

Dywedodd Gareth Jolliffe, Postfeistr Swyddfa’r Post Pont-y-pŵl: “Hoffem ddiolch i bob un o’r masnachwyr annibynnol lleol sydd wedi cymryd rhan a chyfrannu gwobrau, ac i Go Local am argraffu’r posteri i hyrwyddo’r digwyddiad ledled y dref.”

Mae ffurflenni mynediad ar gael o Swyddfa’r Post Pont-y-pŵl ar Osborne Road, a dylid eu dychwelyd cyn 1pm ar ddydd Sadwrn 28ain Awst.

Bydd deg enillydd ffodus yn cael eu dewis ar hap o blith y ceisiadau cywir.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/08/2021 Nôl i’r Brig