Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Medi 2021
Mae cynnydd wedi bod yn y nifer o gwynion ynglŷn ag eiddo yn Nhorfaen sy’n gwerthu alcohol, sigaréts ac e-sigaréts i blant dan oed – rhai ohonyn nhw mor ifanc â 12 oed.
Yr wythnos ddiwethaf, ymgymerodd tîm Safonau Masnach Cyngor Torfaen a Heddlu Gwent ymgyrch ar y cyd yn targedu siopau yr honnir iddynt werthu eitemau a gyfyngir gan oedran i bobl ifanc dan 18 oed.
Gofynnwyd i wirfoddolwyr dan oed geisio prynu alcohol, sigaréts neu e-sigaréts o 10 eiddo. Gwerthodd pedair o’r siopau alcohol i’r gwirfoddolwyr a gwerthodd un e-sigarét wedi ei llwytho ymlaen llaw.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: "Mae’n siomedig bod hanner y siopau a dargedwyd yn yr ymgyrch hon wedi methu â gwirio oedran y gwirfoddolwyr cyn cytuno gwerthu eitemau a gyfyngir gan oedran.
“Mae alcohol a sigaréts yn risg arwyddocaol i iechyd pobl ifanc a gallent hefyd niweidio cymunedau.
"Mae’n anghyfreithlon gwerthu alcohol, sigaréts ac e–sigaréts i unrhyw un dan 18 oed, Mae busnesau sy’n gwneud hynny mewn perygl o gael eu herlyn a’u dirwyo, a gellir atal neu ddirymu eu trwyddedau."
Rhoddwyd rhybuddion llafar i berchnogion y pum siop ar unwaith ac maent hefyd wedi derbyn rhybuddion ysgrifenedig i sicrhau eu bod yn deall difrifoldeb y materion hyn ac i rwystro niwed pellach i blant.
Gall trigolion sy’n poeni bod pobl ifanc yn cael alcohol neu sigaréts ac e-sigaréts o siopau yn Nhorfaen adrodd am eu pryderon i Safonau Masnach drwy ebostio
trading.standards@torfaen.gov.uk neu i’r Heddlu ar 101.