Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 18 Awst 2021
Mae'n dra hysbys bod ‘dysgu wrth fynd’ yn dod yn fwyfwy cyffredin, Er mwyn cadw i fyny â chyflymder y newid, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen newydd lansio platfform hyfforddi ar-lein newydd ‘dysgu wrth fynd’.
Mae’r porth e-ddysgu newydd ar-lein sy’n cynnig dewis arall hyblyg yn lle dysgu traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth, yn eich caniatáu i astudio ble bynnag a phryd bynnag yr ydych yn dymuno.
Darperir cyrsiau trwy ddarlithiau a fideos rhithiol, gyda’r cynnwys yn cael ei grynhoi i fodiwlau bychain, er mwyn cynnig mynediad iddynt drwy ffonau clyfar, tabledi neu liniaduron.
Mae'r wefan yn cynnig dewis o gyrsiau mewn Iechyd a Diogelwch, Gofal Cymdeithasol a Sgiliau Busnes, gyda mwy i ddilyn yn fuan.
Mae'r holl gyrsiau sydd ar gael yn cael eu rheoli a'u datblygu gan arbenigwyr yn y diwydiant, felly gallwch fod yn hyderus y byddwch chi'n ennill sgiliau a gwybodaeth hanfodol yn y maes astudio o'ch dewis.
Meddai’r cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, “Erbyn hyn, mae llawer o bobl yn dewis gwella’u rhagolygon drwy ennill cymwysterau ar-lein. Mae’n ddewis dichonadwy sy’n cynnig ffordd o ddysgu ar gyflymder yr unigolyn.
Os nad oes gennych unrhyw brofiad blaenorol neu os ydych chi'n adeiladu ar eich sgiliau presennol, mae gennym y cwrs sy'n iawn i chi. Efallai y bydd rhai cyrsiau hyd yn oed yn cael eu hariannu'n llawn trwy ein mentrau Sgiliau a Chyflogadwyedd presennol. "
Am restr lawn o gyrsiau ewch i, https://videotilehost.com/torfaentraining/index.php or call 01633 647647