Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 17 Awst 2021
Os ydych chi'n seiclo neu'n cerdded yn rheolaidd - neu os hoffech chi - yna mae angen eich help ar Gyngor Torfaen!
Ychydig fisoedd yn ôl gwnaethom ofyn i drigolion ddweud wrthym am eu profiadau o'r llwybrau seiclo a cherdded yn y fwrdeistref, fel rhan o adolygiad o Fap Rhwydwaith Integredig Cyngor Torfaen.
Fe wnaeth mwy na 1000 o bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac mae'r ymatebion hynny wedi helpu i lunio Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) drafft ar gyfer Torfaen.
Mae 111km o lwybrau ychwanegol wedi cael eu hychwanegu at y rhwydwaith, a gofynnir i drigolion rhoi eu barn ar y rhannau newydd, ynghyd â llwybrau presennol a nodwyd fel rhai derbyniol a'r rhai sydd angen eu gwella.
Yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru), mae'r drafft yn canolbwyntio ar ardaloedd â mwy na 2000 o drigolion - Blaenafon, Abersychan, Pont-y-pŵl, Ponthir a Chwmbrân.
Mae teithio llesol yn cyfeirio at seiclo neu gerdded ar deithiau bob dydd gan gynnwys cyrraedd yr ysgol a dychwelyd adref, gwaith, siopau, gwasanaethau iechyd a hamdden, yn hytrach nag ar gyfer gwasanaethau hamdden.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cliciwch yma https://getinvolved.torfaen.gov.uk/neighbourhoods/active-travel/. Y dyddiad cau yw dydd Mawrth 9 Tachwedd
I gael mwy o wybodaeth am deithio llesol yn Nhorfaen, ewch i www.torfaen.gov.uk/en/RoadsTravelParking/WalkingCycling/Walking-and-Cycling.aspx