Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 6 Awst 2021
Ydych chi wedi erioed wedi meddwl am olrhain hanes eich teulu, siarad iaith wahanol neu ail-hyfforddi ar gyfer gyrfa newydd?
Yna lawrlwythwch llyfryn diweddaraf Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen 2021/2022 heddiw!
Mae cyrsiau yn cychwyn o fis Medi a bydd cyfle i chi ddatblygu diddordebau, gwella eich rhagolygon gyrfa, datblygiad personol ac iechyd a lles.
Am y tro cyntaf, mae fersiwn arlein yn disodli’r llyfryn a oedd yn arfer cael ei anfon at drigolion lleol.
Fodd bynnag, gallwch ofyn am gopi o hyd, neu gael copi o adeiladau Cyngor Torfaen, canolfannau gwaith, lleoliadau cymunedol a llyfrgelloedd.
Gallwch lawrlwytho llyfryn yr Hydref 2021/22 yma neu glicio i ofyn am gael anfon copi i’ch cartref.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â’n tîm ymroddedig a chyfeillgar Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar 01633 647647.