Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 28 Ebrill 2021
Bydd Llyfrgelloedd Torfaen yn ailagor ddydd Mawrth 4 Mai ar gyfer rhywfaint o bori, benthyca a dychwelyd llyfrau.
Yr oriau agor ar gyfer pob llyfrgell fydd:
Llyfrgell Cwmbrân
Dydd llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener: 9am-5pm, Dydd Sadwrn 9am-4pm (Ar gau ddydd Mercher)
Llyfrgell Pont-y-pŵl
Dydd Mawrth i ddydd Gwener: 9am-5pm, dydd Sadwrn 9am-4pm (Ar gau ddydd Llun)
Llyfrgell Blaenafon
Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 10am-5pm (ar gau ddydd Llun)
Bydd y gwasanaeth Cais a Chasglu poblogaidd yn parhau ym mhob llyfrgell a gall aelodau neilltuo sesiynau 30 munud ar y cyfrifiaduron cyhoeddus os oes rhai ar gael. Gellir bwcio sesiynau cyfrifiadur 7 diwrnod o flaen llaw.
Ar gyfer defnydd o gyfrifiadur, i ddefnyddio’r gwasanaeth Cais a Chasglu, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, ffoniwch 01633 647676 a rhowch rif eich cerdyn llyfrgell i wneud apwyntiad gyda’ch llyfrgell ddewisedig.
Mae Llyfrgelloedd Torfaen yn edrych ymlaen at groesawu aelodau yn ôl yn ddiogel i’r llyfrgelloedd fel rhan o’r cam nesaf o ailagor, ond hoffem atgoffa aelodau i gadw pellter cymdeithasol tra byddwch yn y llyfrgelloedd.