Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Ebrill 2021
Yn ddiweddar, fe wnaeth pump o bobl ifanc o Wasanaeth Ieuenctid Torfaen gymryd rhan mewn ffug etholiad rhithwir y Senedd, gan gystadlu yn erbyn pobl ifanc o bleidiau gwleidyddol eraill o bob rhan o Gymru.
Roedd Leo Perham, Taylor Gibney, Jordain Hamilton, Julianne Baker a Kyle Bleakly i gyd yn rhan o grŵp Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen 'Pobl Ifanc y Dyfodol' a aeth ymlaen i ennill y ffug etholiad ar ôl cyflwyno eu maniffesto ar gyfer newid yn huawdl, gan fynd i'r afael â materion fel cefnogaeth i les pobl ifanc a system cyfiawnder ac addysg deg i bawb.
Meddai Leo Perham (16 oed), “Roedd cymryd rhan yn y ffug etholiad yn brofiad rhagorol i ni. Fe gawsom dynnu sylw at faterion yr ydym yn eu hwynebu heddiw, fel pobl ifanc. Rwy’n yn ddiolchgar am y cymorth y mae gwasanaeth ieuenctid Torfaen A Gofalwyr Ifanc Torfaen wedi ei ddarparu i ni.”
Ychwanegodd Taylor Gibney (17 oed), “Pan enillon ni’r ffug etholiadau, cefais sioc ond fe’m syfrdanwydyn llwyr ar ran y tîm. Fe wnaethom roi ein meddyliau a'n lleisiau at ei gilydd i geisio gwella bywydau pobl ifanc yng Nghymru."
Diben y digwyddiad rhithwir oedd codi ymwybyddiaeth bellach ynghylch pobl ifanc 16+ oed sy'n gallu pleidleisio am y tro cyntaf erioed yn etholiadau'r Senedd, a gynhelir ar 6 Mai.
Dywedodd David Williams, Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid Torfaen, “Rydyn ni mor falch o'r holl bobl ifanc a gymerodd ran, y rhai oedd yn cyflwyno a'r rhai a weithiodd y tu ôl i'r llenni. Mae cymryd rhan mewn democratiaeth mor bwysig a dangosodd y bobl ifanc, sydd mor ymwybodol, yn wleidyddol a chymdeithasol, pam eu bod yn fwy na pharod i bleidleisio yn 16 oed! Da iawn bawb.”
Ar ôl y digwyddiad cafodd y bobl ifanc eu cyfweld gan Lloyd Lewis o dîm rygbi saith bob ochr Cymru a Chlwb Rygbi Pont-y-pŵl a Zahra Errami o ITV Cymru i drafod eu maniffesto ymhellach.
Mae recordiad o’r digwyddiad nawr ar YouTube a Senedd TV.