Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Ebrill 2021
Mae gwasanaeth cludo prydiau Cyngor Torfaen wedi gweld cynnydd o bron i dreian yn y galw amdano dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae tîm Prydiau Cymunedol Cyngor Torfaen yn paratoi dros 1150 o brydiau'r wythnos o gymharu â chyfartaledd o 860 yn 2018/19.
Mae'r gwasanaeth, sy'n costio £5 am bryd dau gwrs, ar gyfer pobl sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain ond nad ydynt yn gallu paratoi eu prydiau eu hunain, ac mae'n cynnig gwiriadau lles hefyd.
Mae dros 200 o drigolion wedi cofrestru am y gwasanaeth ac mae ganddyn nhw'r dewis o bryd poeth ac eitemau i de hefyd mor aml ag y maen nhw'n dymuno, heb gytundeb parhaol.
Er bod nifer o'r rheiny sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn bobl hŷn, mae'r gwasanaeth Prydiau Cymunedol ar agor i bawb nad ydynt yn gallu paratoi pryd oherwydd llesgedd, salwch neu anabledd
Ymunodd Joyce Dudley, 91 oed o Gwmbrân â'r gwasanaeth yn Ionawr, ac mae hi'n derbyn 5 pryd yr wythnos. Dywedodd Joyce, “Mae'r gwasanaeth yn wych, mae'r prydiau'n hyfryd ac rwy'n edrych ymlaen pob dydd. Mae'r staff mor gwrtais a does dim byd yn ormod o drafferth. Mae'n cynnig tawelwch meddwl ac mae fy nheulu'n gwybod bod rhywun yn galw i mewn pob dydd.”
Dywedodd Susan Horsley, y mae ei mam, Madeline Lyndon, 99, yn defnyddio'r gwasanaeth, “Mae prydiau fy mam pob amser yn arogli ac yn edrych yn flasus. Mae'r staff i gyd yn gymwynasgar a dymunol. Mae'n wasanaeth ardderchog sy'n rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd o wybod bod eu hanwyliaid yn cael bwyd maethlon a phoeth. Diolch i'r staff ymroddedig sy'n darparu'r gwasanaeth 52 wythnos y flwyddyn. Da iawn”
Un o ddefnyddwyr arall y gwasanaeth sy'n fodlon iawn yw Martin Jennings, 69 oed o Gwmbrân, sydd wedi bod yn derbyn prydiau cymunedol ers dros flwyddyn. Dywedodd, “Rwy'n credu bod y gwasnaeth yn hynod o glodwiw, yn arbennig yn ystod y cyfnod anodd ac ansicr yma, pan rwyf wedi gwerthfawrogi'r gwasanaeth rheolaidd a dibynadwy'n fawr iawn. Diolch i bawb sy'n ymwneud â pharatoi a chludo'r prydiau. Rydych chi'n gnweud gwaith ardderchog!”
Dywedodd y Rheolwr Prydiau Cymunedol, Gareth Bowd, “Gyda phobl yn treulio rhagor o amser gartref o ganlyniad i'r pandemig, mae'r galw am ein gwasanaeth prydiau cymunedol ar ei uchaf erioed.
Heddiw, rydym wedi cludo 174 o brydiau. Cyn y pandemig roedd gennym ni bedwar fan yn gweithio llawn amser 7 diwrnod yr wythnos a 5ed fan yn gweithio rhai oriau ond nid ar benwythnosau. Nawr mae gennym bump fan yn cludo prydiau cymunedol 7 diwrnod yr wythnos.
Mae pob cylchdaith yn cludo dros 30 pryd y diwrnod gyda rhai yn cludo 40+ pryd y diwrnod ar yr adegau prysuraf.
Er bod y gwasanaeth yn gwneud yn dda iawn, mae ein timau Gwasanaethau Oedolion yn parhau i hyrwyddo'r gwasanaeth Prydiau Cymunedol gyda thrigolion y maen nhw'n eu cefnogi, fel ffordd ddichonol o'u cefnogi yn eu cartrefi gyda gwiriadau lles a phryd, poeth, iach.”
I wneud cais, neu i wybod rhagor am y gwasanaeth Prydiau Cymunedol, ewch i wefan Torfaen, www.torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 766373.