medium
Pwysig - I gael gwybodaeth am yr ysgolion fydd yn cau oherwydd streiciau ar 1 Chwefror, a fyddech cystal ag edrych ar wefan eich ysgol
Sesiwn Wybodaeth Cronfa Adnewyddu Cymunedol Torfaen
Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Ebrill 2021
Yn dilyn ein gwahoddiad i wneud cynnig ar 20 Ebrill, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen mewn partneriaeth â Chynghrair Gwirfoddol Torfaen wedi trefnu gweminar ar 29 Ebrill rhwng 11am a 12 canol dydd.
Mae'r weminar wedi'i hanelu at ddarpar ymgeiswyr o bob sector, a bydd yn cynnig trosolwg o Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.
Bydd ffocws y weminar yn ddeublyg:
- Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn darparu manylion y broses ymgeisio, y cyllid sydd ar gael, a'r gofynion o ran cymhwysedd.
- Bydd Cynghrair Gwirfoddol Torfaen yn hyrwyddo'r rôl y gallai sefydliadau'r trydydd sector ei chwarae o ran ceisiadau Cronfa Adnewyddu Cymunedol a gall gynnig awgrymiadau a chyngor.
I ymuno â’r weminar cofrestrwch trwy ddilyn y ddolen ganlynol: Gweminar Cronfa Adnewyddu Cymunedol Torfaen
Diwygiwyd Diwethaf: 21/01/2022 Nôl i’r Brig
© Copyright 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen