Wedi ei bostio ar Dydd Llun 4 Hydref 2021

Newidiadau I Orsafoedd Pleidleisio
Bydd pethau’n edrych yn wahanol i bobl sy’n bwriadu mynd i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mis nesaf yn etholiadau’r Senedd a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Bydd rhai pleidleiswyr yn sylwi bod eu gorsaf bleidleisio arferol wedi ei newid i leoliad gwahanol. Mae hyn oherwydd nad oedd rhai adeiladau yn addas i’w defnyddio eleni dan y canllawiau coronafeirws.
Mae tîm etholiad Cyngor Torfaen hefyd wedi ceisio osgoi defnyddio ysgolion lle bo hynny'n bosibl i gyfyngu ar aflonyddu ymhellach ar addysg plant.
Mae cyfeiriad pob gorsaf bleidleisio yn Nhorfaen wedi ei nodi ar y cardiau pleidleisio.
Bydd newidiadau i’r gorsafoedd pleidleisio eu hunain hefyd i sicrhau diogelwch pawb, megis cyfyngiad ar y nifer o bobl a all fod yn yr orsaf ar yr u n pryd, systemau un ffordd a staff ychwanegol wrth law i lanhau bythau pleidleisio.
Gofynnir i bleidleiswyr helpu drwy wisgo gorchudd wyneb, dod â’u cardiau pleidleisio a’u pin ysgrifennu neu bensel eu hunain.
Mae Cyngor Torfaen wedi cynhyrchu canllaw fideo i esbonio’r holl newidiadau cyn y diwrnod pleidleisio
Meddai Rheolwr Etholiadau Cyngor Torfaen, Caroline Genever-Jones: “Rydym yn gwneud popeth y medrwn i wneud yn siŵr bod pobl yn teimlo’n ddiogel wrth ymweld â gorsafoedd pleidleisio ar ddydd Iau Mai 6ed.
“Bydd cyfyngiad ar y nifer o bobl sy’n cael bod yn y gorsafoedd pleidleisio ar y diwrnod ac efallai y gofynnir i bobl aros y tu allan os oes eraill yn pleidleisio. Bydd staff ar gael os byddwch angen unrhyw help.
“Gofynnir i bleidleiswyr ddod â’u cardiau pleidleisio gyda nhw a mynd â nhw gartre wedyn. Gallwch bleidleisio heb gerdyn, ond bydd yn helpu i wneud y broses yn gyflymach a lleihau cyswllt ag eraill.”
Mae amser o hyd i benodi rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru pleidlais drwy ddirprwy yw Ebrill 27ain. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://tinyurl.com/4frvcfbw