2ail gam i agor llyfrgelloedd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Ebrill 2021

Mae Llyfrgelloedd Torfaen yn falch o gyhoeddi y bydd pob llyfrgell yn ailagor o ddydd Mawrth 4 Mai ar gyfer pori cyfyngedig, benthyca a dychwelyd llyfrau.

Yn ystod y cam nesaf hwn o ailagor, yr oriau agor ar gyfer pob llyfrgell fydd:

Llyfrgell Cwmbrân 
Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener: 9am-5pm, Dydd Sadwrn 9am-4pm (Ar gau ar ddydd Mercher)

Llyfrgell Pont-y-pŵl
Dydd Mawrth i ddydd Gwener: 9am-5pm, Dydd Sadwrn 9am-4pm (Ar gau ar ddydd Llun)

Llyfrgell Blaenafon
Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 10am-5pm (Ar gau ar ddydd Llun)

Bydd y gwasanaeth poblogaidd Cais a Chasglu yn parhau i weithredu ym mhob llyfrgell, a gall aelodau ddal i archebu sesiynau 30 munud ar y cyfrifiaduron cyhoeddus sydd ar gael.

Am unrhyw ymholiadau neu i ddefnyddio'r gwasanaeth Cais a Chasglu, ffoniwch 01633 647676 neu e-bostiwch Cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2021 Nôl i’r Brig