Wedi ei bostio ar Dydd Iau 1 Ebrill 2021
Ar ddydd Gwener y Groglith (2 Ebrill), bydd y Llyn Cychod, cae chwarae’r plant a’r bloc toiledau oll yn ailagor i’r cyhoedd ar ôl gwaith hanfodol i symud coed ymaith ar hyd y rheilffordd.
Fodd bynnag, bydd mynedfa i’r parc a’r llyn ond ar gael o brif faes parcio’r Llyn Cychod oddi ar Llanfrechfa Way. Bydd mynediad i gerddwyr dros y rheilffordd o Lantarnam a’r fynedfa o faes parcio Caeau Chwarae’r De yn aros ar gau. Bydd yr holl lwybrau i’r Llyn Cychod yn ailagor o 10 Ebrill.
Dros y pythefnos nesaf bydd gwrych coed ffawydd newydd yn cael ei blannu ar hyd llinell y coed coniffer sydd wedi eu torri i lawr, a fydd yn darparu sgrîn da i’r rheilffordd ac yn helpu i wella bioamrywiaeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anhwylustod i drigolion ac ymwelwyr.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma