Wedi ei bostio ar Dydd Llun 28 Medi 2020
Mae Cyngor Torfaen wedi ffurfio partneriaeth gyda’r ap symudol, UDDR i gynnig ‘Siop Un Stop’ hawdd ei defnyddio i fusnesau a siopwyr.
Gall busnesau lleol ddefnyddio UDDR i farchnata’u cynnyrch a gwasanaethau’n ddigidol, a gall trigolion a chwsmeriaid ddefnyddio’r ap i weld beth sydd ar gael yn lleol.
Bydd Tîm Prosiect Sylfaenol Cyngor Torfaen, gydag arian gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig Grant Cymorth Marchnata Busnesau Cychwynnol a fydd yn cynnwys cefnogaeth hysbysebu digidol a marchnata i fusnesau newydd, masnachwyr a gwasanaethau yn y gymuned leol.
Bydd ap symudol UDDR, a ffurfiwyd yn lleol, yn bartner technoleg wrth i’r prosiect gynyddu ymwybyddiaeth brand i fusnesau lleol a rhoi dull syml ac arloesol i drigolion a chwsmeriaid gael hyd i wasanaethau lleol a chysylltu â nhw.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters: “Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio pob un ohonom ni, gan achosi heriau mawr yn ein bywydau, ond mae wedi annog nifer ohonom ni hefyd i gefnogi ein trefi lleol a strydoedd mawr a gwario mwy o’n harian yn ein cymunedau.
“Lansion ni ein Cronfa Her yr Economi Sylfaenol oherwydd ein bod ni am i’n heconomi i weithio’n well ar gyfer ein cymunedau i gyd yng Nghymru, ac mae’r prosiect yma sydd wedi dod â Chyngor Torfaen a’r ap symudol UDDR at ei gilydd, yn arloesi ac yn defnyddio technoleg i’w wneud yn haws fyth i bobl siopa a gwario’n lleol a chefnogi busnesau yn eu hardal.
“Mae’n enghraifft wych o sut allwn ni gymryd camau i gryfhau seiliau ein heconomïau lleol fel ein bod ni mewn sefyllfa well i addasu a ffynnu sut bynnag fydd y dyfodol.”
Ychwanegodd David Smith, cyd-sylfaenydd UDDR “Daeth y syniad ar gyfer ap UDDR yn wreiddiol er mwyn cefnogi busnesau bach, yn arbennig cyflenwadau llaeth – dyna darddiad yr enw. Rydym yn falch o fod yn gweithio Alyson a’r Tîm Economi Sylfaenol ac yn edrych ymlaen at lwyddiannau pellach yn 2020/21.”
Bydd y Grant Cymorth Marchnata Busnesau Cychwynnol a arweinir gan y Tîm Economi Sylfaenol ym Mhont-y-pŵl yn cynnig arian i fusnesau cychwynnol i fod ar ap UDDR am 12 mis heb gost i’r busnesau sy’n ymuno yn ystod y cyfnod yma o 12 mis.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, y Cynghorydd Joanne Gauden, “Mae’n wych ein bod yn parhau i gefnogi ethos ein heconomi sylfaenol lleol trwy weithio’n agos gydag UDDR i roi busnesau Torfaen ar y map.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol i helpu eraill, tyfu’r economi leol a gwneud gwahaniaeth i galon ein cymuned trwy brynu’n lleol.
Mae’n bwysig dweud y gall busnesau lleol hefyd gael mynediad ar amrywiaeth o wasanaethau cefnogol trwy ymweld â Hyb2 ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.
Gall y tîm yno gefnogi busnesau lleol i gael mentora busnes, hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol a chefnogaeth cynllunio busnes.”
I gymryd mantais o’r grant yma a ariennir yn llawn ac i gael eich busnes ar ap UDDR, neu i wybod mwy am Hyb2 a’r hyn y gall ei gynnig i fusnesau, cysylltwch â Swyddog Prosiect Cronfa Her Cyngor Torfaen, Alyson Jones trwy e-bost: Alyson.jones@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 07971919028.