Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 15 Medi 2020
Mewn ymateb i newidiadau i reoliadau Covid-19, mae Dysgu Oedolion a’r Gymuned yn Nhorfaen wedi diweddaru ei bolisi i’r sawl sy’n defnyddio’r canolfannau.
Bellach mae'n ofynnol i bob ymwelydd wisgo mwgwd wyneb pan fyddant mewn ardaloedd cymunedol, mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys: mynedfeydd, coridorau, grisiau, cynteddau, lifftiau a thoiledau. Mae gwisgo mwgwd mewn gwers yn parhau i fod yn ddewisol
Mae'r gwasanaeth hefyd wedi'i eithrio o'r 'Rheol Chwech' a gall barhau i gyflwyno dosbarthiadau i 6 dysgwr neu fwy.
Bydd polisïau ymddygiad disgwyliedig yn cael eu cyfleu i bob dysgwr cyn unrhyw ymweliad ac mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin ar gael ar dudalen we Dysgu Oedolion a’r Gymuned.