Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 27 Hydref 2020
Mae cyfnod clo dros dro wedi ei gyflwyno ledled Cymru i helpu i adennill rheolaeth dros y feirws. Daeth cyfres o fesurau cyfyngu i rym am 6pm ar ddydd Gwener 23ain Hydref a bydd yn parhau hyd at 12:01am ar ddydd Llun 9fed Tachwedd 2020.
Mae Cwestiynau ac Atebion llawn i’w gweld yn https://gov.wales
Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau
Mae hon yn gronfa i roi cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol sydd wedi eu hachosi gan y cyfnod clo cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru o ganlyniad i COVID-19.
Pwrpas y gronfa yw cynorthwyo busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau.
Bydd y gronfa ar agor i geisiadau o’r 28ain Hydref ac yn cau am 5pm ar 20fed Tachwedd, neu pan fydd y gronfa wedi ei hymrwymo’n llawn.
Mae’r gronfa yn cynnwys dau grant ar wahân:
- Grant Ardrethi Annomestig Cyfnod Clo
- Grant Dewisol Cyfnod Clo
Rhagor o wybodaeth www.southwalesbusiness.co.uk