Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 6 Hydref 2020
Diweddariad Busnes Cymru
Mae sicrhau bod eich busnes yn ddiogel ac yn cydymffurfio o ran COVID-19, ar yr un pryd ag aros yn gynhyrchiol ac yn broffidiol, yn gallu teimlo fel her enfawr. Ond mae help ar gael, yn rhad ac am ddim i fusnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru, trwy’r rhaglen Arloesedd SMART a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
O helpu’ch busnes i weithredu’n ddiogel a bodloni’r canllawiau angenrheidiol, i weithio gyda chi i amlygu cyfleoedd eraill i wneud eich cwmni’n fwy cynhyrchiol a phroffidiol, mae Arloesedd SMART yma i helpu. Gwnewch eich busnes yn ddiogel, yn effeithlon ac yn gynhyrchiol heddiw.
Mae cannoedd o fusnesau eisoes wedi elwa o’r rhaglen Arloesedd SMART.
Dysgwch fwy nawr:
https://businesswales.gov.wales/innovation/cy/arloesedd-smart/cefnogaeth-arloesi-covid-19
*Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) tan i’r rhaglen ddod i ben.