Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Tachwedd 2020
Mae dau fusnes cychwynnol newydd wedi dechrau yn Nhorfaen ar ôl cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a rhaglen Cymunedau i Waith a ariennir gan y Gronfa Gymunedol Ewropeaidd.
Mae un o drigolion Blaenafon, Amy Dando, wedi gallu gwireddu ei breuddwyd o lansio’i salon ewinedd ei hun, Amy Dando Nails, sydd yn siop trinwyr gwallt Fadez and Braidz yn Broad Street, Blaenafon.
Mae Amy’n dechnegydd ewinedd profiadol ac mae’n cynnig amrywiaeth o driniaethau gan gynnwys triniaeth dwylo, triniaeth traed ac estyniadau amrannau.
Gyda’r gefnogaeth a gafodd Amy gan raglen CiW, roedd hi’n gallu cael arian am gyfarpar newydd gan gynnwys desg newydd, soffa harddwch, cadeiriau a deunydd marchnata.
Hefyd, mae Tara Smith o Drefddyn wedi dechrau ei busnes trwy agor ‘Tara's Treasured Treats’, busnes gwneud teisennau cartref.
Mae gan Tara amrywiaeth eang o deisennau gan gynnwys cacennau siocled, teisennau bach, treiffl a theisennau caws. Bydd Tara’s Treasured Treats yn cynnig dewisiadau di-glwten ac mae hi yn y broses o gynnig dewisiadau calori isel ar gyfer y rheiny sydd am golli pwysau.
Roedd Tara’n gallu mynd at gyrsiau ar-lein a’i galluogodd i gwblhau cyrsiau Hylendid Bwyd Lefel 3 a Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnesau Bach, a derbyniodd hefyd arian ar gyfer eitemau hanfodol.
Dywedodd Tara: 'Mae fy mentor Cymunedau i Waith, Trina, wedi bod yn anhygoel wrth fy helpu o’r cychwyn oll a dydw i ddim yn credu y buaswn i wedi llwyddo cymaint hebddi.
Rwy’ wastad wedi bod yn nerfus wrth siarad â phobl newydd, yn enwedig pan nad oes modd i ni gwrdd wyneb yn wyneb. Mae cymunedau i Waith wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi gwneud i mi deimlo’n esmwyth, maen nhw wedi fy helpu i sicrhau’r hyn sydd angen arnaf i wneud gweithio gartref yn bosibl.'
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: ‘Mae’n wych gweld dau fusnes arall yn dechrau yng ngogledd Torfaen. Mae gan fusnesau bach rôl bwysig yn natblygiad economaidd ein hardal.
Gyda’r gefnogaeth a chyfarwyddyd cywir, mae yna gyfleoedd o hyd i ddatblygu syniad busnes a gwireddu breuddwyd ar adeg anodd fel hyn.
Mae’r gefnogaeth y mae rhaglen Cymunedau i Waith wedi ei rhoi wedi bod yn hanfodol wrth i’r busnesau yma ddechrau, fel sy’n amlwg o’r sylwadau. Rwy’n falch o ba mor effeithiol mae Cymunedau i Waith a Mwy wedi bod yn yr amserau heriol yma.’
Ers dechrau’r pandemig, mae 196 o bobl wedi cael cefnogaeth trwy’r rhaglen Cymunedau i Waith, gyda dros 70 yn sicrhau gwaith.
I drafod dechrau busnes yn Nhorfaen, ffoniwch dîm Cymunedau i Waith ar 01495 742 131 neu, danfonwch neges uniongyrchol trwy eu tudalen Facebook.