Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Tachwedd 2020
‘Dim amser i ymweld â’ch llyfrgell leol i ddewis eich llyfrau eich hun ar y funud? Mae gwasanaeth ‘Ceisio a Chasglu’ Llyfrgelloedd Torfaen yn dal i weithredu yn y tair llyfrgell.
Bydd staff y llyfrgell yn dewis eich llyfrau i chi gyda dyddiad ac amser i chi ymweld â’r llyfrgell i gasglu eich eitemau.
Os byddwch yn mynd i siopa Nadolig, gadewch i staff y llyfrgell wybod a byddant yn trefnu bod y llyfrau yn barod i chi eu casglu ar ôl i chi orffen siopa.
Gellir gofyn am lyfrau drwy ffonio 01633 647676 neu ebostio Cwmbran.library@torfaen.gov.uk.
Wrth gysylltu â’r llyfrgell i ofyn am eitemau, rhowch yr wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:
- rhif eich cerdyn llyfrgell a’ch rhif ffôn
- eich ceisiadau am lyfrau/yr hyn fyddai orau gennych. Gallai hyn fod yn ddetholiad o’ch hoff awduron/genres neu deitlau llyfrau penodol
Os nad ydych eto yn aelod o’r gwasanaeth llyfrgell, ymunwch heddiw drwy fynd i https://www.torfaen.gov.uk/cy/Libraries/Libraries-howtojoin/How-do-I-join.aspx