Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Tachwedd 2020
Yn y cyfnod cyn Sul y Cofio, cafodd ysgolion Torfaen gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth Cofio.
Cafodd ysgolion cynradd y dasg o greu gwaith celf, tra bu rhaid i ddisgyblion ysgolion uwchradd ysgrifennu’n greadigol a chreu gwaith llenyddol.
Enillwyr y gystadleuaeth oedd Poppy Higgs o Ysgol Gynradd Greenmeadow ac Emily Brown o Ysgol Croesyceiliog a enillodd dalebau WH Smith gwerth £100 yr un a £100 yr un i’w hysgolion.
Cyflwynwyd talebau i’r ddwy yn eu hysgolion gan Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Torfaen a chynghorydd Blaenafon, y cynghorydd Alan Jones.
Wrth feirniadu, dywedodd Canolfan Gelf Maenor Llantarnam: “Am ddewis anhygoel o waith – gwaith mor ystyrlon a theimladwy gan ein pobl ifanc. Defnydd creadigol, arloesol o dechnegau, teyrngedau personol hyfryd i aelodau teuluol. Roedd yn anodd iawn dewis! Ond rydym wedi dewis yr enillydd oherwydd symlrwydd hyfryd y gwaith. Hoffem hefyd ganmol Leo o Ysgol Gynradd Maendy am ei waith”
Wrth feirniadu, dywedodd Awduron Afon Llwyd: ‘Roedd yr ymdrech fuddugol yn gerdd gref iawn, delweddau hardd; teimladwy iawn. Fe wnaethom ni fwynhau darllen pob un o’r cerddi. Mae’n wych gweld cenhedlaeth newydd o feirdd yn datblygu yn Nhorfaen ac rydym yn annog pob un a ymdrechodd i barhau i ysgrifennu. Hoffem hefyd ganmol Sienna Whittaker o Ysgol Croesyceiliog'