Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 18 Tachwedd 2020
Mae Llyfrgelloedd Torfaen yn falch o gyhoeddi o ddydd Llun 23 Tachwedd bydd pob llyfrgell yn ailagor am amser cyfyngedig er mwyn i bobl bori drwy lyfrau a'u benthyca ac i ddychwelyd llyfrau. Bydd cwsmeriaid hefyd yn gallu archebu sesiynau 30 munud ar ein cyfrifiaduron cyhoeddus pan fydd lleoedd ar gael.
Oriau agor pob llyfrgell fydd:
Llyfrgell Cwmbrân
Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener 10am-4pm
Dydd Sadwrn 9am-1pm
Llyfrgell Pont-y-pŵl
Dydd Mercher a Dydd Gwener 10am-3pm
Dydd Sadwrn 9am-1pm
Llyfrgell Blaenafon
Dydd Mawrth a Dydd Iau 10am-3pm
Dydd Sadwrn 10am-1pm
Bydd y gwasanaeth poblogaidd ‘Ceisio a Chasglu’ yn parhau ymhob llyfrgell.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Rydyn ni wrth ein boddau bod dysgwyr a selogion yn cael dychwelyd i’n llyfrgelloedd yr wythnos nesaf.
“Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n hanfodol i ddysgwyr gael mynediad at lyfrau sy'n eu cynorthwyo ar eu taith ddysgu. Dyma pam yr ydym wrth ein bodd ein bod yn ailagor.
“Efallai bod Covid wedi newid y ffordd y mae gwasanaethau llyfrgell wedi gweithio dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond nid yw wedi atal ein staff gweithgar rhag dod o hyd i atebion fel y gall pobl ddal ati a chael hyd i adnoddau.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed yn cadw’r gwasanaeth llyfrgell i fynd ers i covid ddechrau, a dymunaf bob lwc iddyn nhw gyda’r cam newydd.”
I'r cwsmeriaid hynny sy'n pryderu am daliadau hwyr ar lyfrau, peidiwch â phoeni. Mae'r cyfnod benthyg llyfrau yn parhau i gael ei ymestyn ar hyn o bryd.
Am unrhyw ymholiadau neu i ddefnyddio ein gwasanaeth ‘Gofyn a Chasglu’, neu i archebu slot cyfrifiadur, ffoniwch 01633 647676 neu e-bostiwch Cwmbran.library@torfaen.gov.uk
Mae Llyfrgelloedd Torfaen yn edrych ymlaen at groesawu ein cwsmeriaid yn ôl yn ddiogel i'r llyfrgelloedd fel rhan o'n cam nesaf i ailagor.