Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Mai 2020
O ddydd Mercher 20fed Mai 2020, bydd gwerthu sigaréts menthol yn y DU yn cael ei wahardd.
Mae Cyfarwyddyd Cynhyrchion Tybaco Diwygiedig yr Undeb Ewropeaidd (2014/40/EU) yn ei gwneud yn drosedd i gynhyrchwyr wneud sigaréts menthol ac i fanwerthwyr werthu sigaréts menthol.
Mae’r Undeb Ewropeaidd yn credu y bydd gwaharddiad ar faco â blas yn gwella iechyd cyhoeddus drwy rwystro pobl rhag smygu. Mae’r gwaharddiad hefyd yn berthnasol i sigaréts gyda philsen, rhai clicio, rhai clicio a rholio, pelen wasgu neu rai deuol. Nid yw’r gwaharddiad yn berthnasol i gynhyrchion baco wedi’i wresogi na chynhyrchion e-sigarét.
Nid yw’r ffaith bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio cyflwyniad y gwaharddiad ar sigaréts menthol.
Rhaid i fanwerthwyr fod wedi gwerthu unrhyw stoc sydd ar ôl o sigaréts menthol erbyn 20fed Mai. Os bydd manwerthwr yn gwerthu sigaréts menthol ar neu ar ôl y dyddiad hwn, maent yn euog o drosedd a gallant:
- O gael collfarn ddiannod mewn llys ynadon, gael eu carcharu am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis, neu ddirwy, neu’r ddau.
Neu
- O gael eu collfarnu o gyhuddiad yn Llys y Goron, gael eu carcharu am gyfnod heb fod yn fwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu’r ddau.
Mae newidiadau eraill i reoliadau baco yn cynnwys y ffaith bod y cyfnod gwerthu trwodd ar gyfer olrhain a thracio yn dod i ben. Mae’r ‘System Olrhain a Thracio’ yn pennu bod angen i bob manwerthwr gael ID dilys i brynu sigaréts a chynhyrchion baco rholio a llaw a daeth i rym ar 20 Mai 2019 mewn ymgais i stopio masnach anghyfreithlon mewn sigaréts a baco.
Rhaid i fanwerthwyr hefyd sicrhau eu bod wedi gwerthu eu stoc o sigaréts a chynhyrchion baco rholio â llaw a gynhyrchwyd cyn 20fed Mai 2019. Gall manwerthwyr adnabod sigaréts a baco rholio a llaw a gynhyrchwyd ar ôl 20fed Mai 2019 drwy chwilio am y label diogelwch ar ochr chwith pecynnau sigaréts ac ochr cau pwrs baco rholio â llaw.