Wedi ei bostio ar Dydd Iau 7 Mai 2020
Ers dechrau cyfyngiadau symud Coronafeirws yn ôl ym mis Mawrth, mae mwy na 470 o drigolion sy’n agored i niwed ledled y fwrdeistref wedi cael cymorth hanfodol gan y Cyngor, sydd wedi eu galluogi i aros gartref yn ddiogel.
Yn ganolog i ymateb y Cyngor i’r argyfwng fu sefydlu tîm Hwb Cymorth Cymunedol canolog, sydd wedi derbyn nifer o geisiadau am help.
Mae’r Hwb, sy’n cynnwys tîm canolog o swyddogion Torfaen a gwirfoddolwyr cymunedol, wedi gallu cynnig nifer o fathau gwahanol o gymorth i drigolion, gan gynnwys:
- help i gael cyflenwadau bwyd hanfodol drwy ddosbarthu parseli bwyd
- cyngor ar gael gwasanaethau siopa arlein
- trefnu casglu meddyginiaeth
- trefnu galwadau lles
- cyngor a gwybodaeth ar y gwasanaethau sy’n rhedeg yn y gymuned
- ac, efallai bwysicaf oll, rhoi sicrhad i bobl yn ystod y cyfnod hwn.
Yn fwyaf nodedig, bu nifer fawr iawn o bobl a oedd eisoes yn cael cymorth gan deulu a ffrindiau, ond a oedd yn ddiolchgar iawn o gael galwad i liniaru rhai o’u pryderon.
Meddai Mr Whitcombe o Sebastopol “Roedd ymateb y Cyngor yn gyflym. Rhoddodd staff help i mi, parsel bwyd wedi ei ddosbarthu yn gyflym ac yna cyngor er mwyn i mi gael y pethau hanfodol roeddwn eu hangen. Nawr mae gennyf y gwasanaethau rwyf eu hangen i ganiatáu i mi a’m gwraig aros yn ddiogel, gan wybod bod y Cyngor yno i helpu os byddwn angen hynny.”
Mynegodd Mrs Haig o Gwmbrân ei gwerthfawrogiad trwy ddweud, yn syml, “Diolch am eich help a’ch galwadau ffôn, sy’n tawelu meddwl”.
Ar wahân i’r cymorth a ddarparwyd gan yr hwb, mae’r ymateb gan y gymuned leol wedi bod yn anfesuradwy, gyda llawer o grwpiau gwirfoddol cymunedol yn sefydlu arlein drwy grwpiau Facebook a sefydliadau cymunedol presennol yn cynyddu eu hymdrechion.
I gefnogi’r partneriaid gwirfoddol dan sylw, mae cynllun cyfeillio wedi ei sefydlu i gynnig person cyswllt penodol i Bartneriaid Gwirfoddol ac Aelodau Ward yn y Cyngor i sicrhau bod ganddynt gymorth os oes ei angen. Mae’r cynllun yn helpu gyda chyngor, arweiniad a chanfod atebion i broblemau lleol fel y maent yn codi.
At hyn, mae asiantaethau partner megis Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, Tai Cymunedol Bron Afon, Cartrefi Melin a Pobl oll wedi gallu cynnig eu hadnoddau i gynorthwyo gyda chysylltu â thrigolion sy’n agored i niwed sydd wedi cael eu cynghori i aros gartref fel rhan o gynllun gwarchod y Llywodraeth.
Meddai’r Aelod Gweithredol ar gyfer Plant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross, “Mae’r ymateb gan bawb dan sylw wedi bod yn anhygoel. Gellir gweld yr effaith go iawn yn yr ymdrechion gan bawb dan sylw o ran sicrhau bod pobl yn cael cyflenwadau bwyd hanfodol, meddyginiaeth a chymorth ymarferol yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cymryd yr hanfodion hyn yn ganiataol.
“Yn hollbwysig i hyn fu’r ymateb cymunedol ynghyd ag ymateb partneriaid gwirfoddol eraill sy’n gweithredu ledled Torfaen. Mae cannoedd o wirfoddolwyr yn helpu ar y rheng flaen a gallaf siarad ar ran llawer o drigolion wrth ddweud bod y cymorth wedi ei dderbyn gyda diolch mawr. Hoffwn ddiolch yn bersonol i bob gwirfoddolwr am bopeth maent yn ei wneud. Heb eu cymorth nhw byddai’r darlun yn wahanol iawn".
Nid y trigolion yn unig sydd wedi mynegi eu gwerthfawrogiad. Mae Cerys Williams sy’n Swyddog Datblygu Chwaraeon gyda’r Cyngor wedi bod yn cysylltu a nifer o drigolion i gynnig help a chymorth. Meddai Cerys, “Rwy’n teimlo fy mod wedi gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r bobl rwy’n siarad â nhw yn ddiolchgar iawn am yr alwad ac roedd hyn yn deimlad braf iawn i mi, ac roedd yn bleser chwarae rhan wrth helpu pobl yn y cyfnod anodd hwn”.
Anogir trigolion sy’n agored i niwed nad oes ganddynt unrhyw gymorth gan deulu, ffrindiau na chymdogion i gysylltu gyda Hwb Cymorth Cymunedol Torfaen, naill ai drwy lawrlwytho’r ap cymorth cymunedol sydd newydd ei lansio yma – neu drwy ffonio 01495 762200.