Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Gorffennaf 2020
Mae lle ar gael ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, adeilad rhestredig gradd II yng nghalon Tref Pont-y-pŵl, am gigydd lleol. Byddai’r cyfle yma’n addas i gigydd sefydledig sy’n chwilio am leoliad fforddiadwy, neu gigydd newydd sydd am dyfu busnes.
Rydym yn cynnig rhent wythnosol rhesymol, gyda’r chwe mis cyntaf fel masnachwr ar brawf, gyda gostyngiad o hyd at 30% ar y rhent. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi roi prawf ar y farchnad, datblygu’ch cynnyrch a chynyddu nifer eich cwsmeriaid.
Ar hyn o bryd does dim cigydd ag eiddo yn y dref, felly bydd hwn yn gyfle anhygoel i rywun gael sefydlu ei hun yn y Farchnad Dan Do.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rheolwr Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl trwy e-bost: pontypoolmarketmanager@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 742757.