Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 28 Ionawr 2020
Mae pedwar busnes newydd wedi agor eu drysau, a pha ffordd well i ddechrau’r flwyddyn newydd yn Nhorfaen.
Mae Laura Davies o Drefddyn wedi agor Fadez & Braidz, sef salon trin gwallt newydd yn Broad Street Blaenafon. Wedi rhedeg y siop am dros bedair blynedd yn flaenorol, mae Laura wedi dychwelyd i’r busnes ar ôl cymryd seibiant i fagu teulu.
Mae Rhys West a Henry Price, ill dau, wedi lansio’u busnes cynnal a chadw gerddi ac maent yn gweithredu o Bontymoel a Threfddyn (Gwasanaethau cynnal a chadw RW Glass and Grass a J Price and sons). Mae’r ddau fusnes yn cynnig ystod sylweddol o wasanaethau cynnal a chadw a garddio yn benodol i bobl leol.
Yn olaf, mae Donna Sullivan wedi agor Golden Lockz, menter harddwch a lliw haul, a hynny yng Nghwmbrân.
Mae’r pedwar busnes wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cymunedau am Waith+ a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac asiantaethau'r Ganolfan Byd Gwaith, a hynny’n cynnwys cyngor ar sefydlu busnes, cyngor cynllunio a chymorth ariannol.
Bu’r rhaglenni’n hanfodol o ran helpu i sefydlu tua 25 o fentrau newydd yn 2019.
Meddai’r Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, 'Mae’r cam i sefydlu’r busnes a’r cymorth parhaus yn unigryw i’r rhaglen Cymunedau am Waith+ ar draws Cymru, a bellach mae’n rhan annatod o’r agenda datblygu y mae Cyngor Torfaen yn ei chyflawni’n llwyddiannus.
Mae'r economi sylfaenol yn ffynnu ledled y fwrdeistref sirol ac mae pobl leol yn troi fwyfwy at hunangyflogaeth mewn ymgais i lunio eu dyfodol eu hunain. Gyda phedwar busnes newydd yn lansio ym mis Ionawr yn unig, mae 2020 yn argoeli i fod yn flwyddyn addawol arall i fusnesau newydd yma yn Nhorfaen. '
Dywedodd Richard Murphy, Swyddog Ymgysylltu Cyflogeion Cyngor Torfaen 'Am ffordd wych i ddechrau’r flwyddyn newydd yn Nhorfaen. Mae cyfleoedd a busnesau newydd bellach ar gael, gyda phobl mor awyddus i fasnachu a darparu gwasanaethau i drigolion y fwrdeistref sirol.
Ein dymuniadau gorau iddynt oll wrth iddynt gychwyn ar gyfnod newydd a chyffrous yn eu bywydau. Pleser o’r mwyaf oedd darparu cefnogaeth i’r fath fenter'.