HomeNewyddionFunding available for to help tackle food poverty in Torfaen
medium
Pwysig - I gael gwybodaeth am yr ysgolion fydd yn cau oherwydd streiciau ar 1 Chwefror, a fyddech cystal ag edrych ar wefan eich ysgol
Cyllid ar gael i helpu i daclo tlodi bwyd yn Nhorfaen
Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 5 Chwefror 2020
Mae CREATE, Rhaglen Datblygu Gwledig Torfaen a ariennir gan yr UE, yn gwahodd grwpiau a mentrau cymunedol i ddatblygu prosiectau newydd ac arloesol sy’n gysylltiedig â bwyd. Nod y prosiect yw helpu i leihau tlodi bwyd yn Nhorfaen a chreu manteision cymdeithasol ac economaidd i wardiau gwledig.
Gall grwpiau wneud cais am hyd at 10K o gyllid refeniw ar gyfer prosiectau sy’n medru dangos eu bod yn diwallu un o’r meini prawf a ganlyn:
- Gwella mynediad i fwyd maethol a fforddiadwy
- Dysgu pobl ifanc a theuluoedd i ddatblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â bwyd
- Gwella gwybodaeth am fwyd maethol sy’n fforddiadwy
- Cysylltu pobl o bob oedran drwy goginio, tyfu a bwyta
- Rhannu sgiliau a gwybodaeth
I gael mwy o wybodaeth am y grant hwn neu i dderbyn ffurflen gais, cysylltwch â Tracey Marsh ar 01495 742336/766239 neu e-bostiwch tracey.marsh@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 05/02/2020 Nôl i’r Brig
© Copyright 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen